BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Golff

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Newidiwyd diwethaf: 05 Rhagfyr 2006
Deuawd i amddiffyn eu coron

Mae Bradley Dredge a Stephen Dodd yn cyfaddef nad oes disgwyl iddynt ennill Cwpan y Byd am yr ail flwyddyn yn olynol.

Stephen Dodd a Bradley Dredge

Roedd y ddeuawd yn fuddugol ym Mhortiwgal y llynedd, mewn cystadleuaeth gafodd ei amharu gan y glaw.

Ond maent yn cydnabod nad yw Cymru ymysg y ffefrynnau ar gyfer y gystadleuaeth eleni, fydd yn dechrau yn Barbados ddydd Iau.

"Nid yw ein perfformiadau wedi bod cystal cyn ein hamddiffyniad," meddai Dredge.

"Ond mae'n gystadleuaeth sy'n gallu eich tanio a gwneud ichi godi o ddim."

Roedd Dredge a Dodd ar y blaen o ddwy ergyd cyn y daeth y glaw i'r amharu ar y gystadleuaeth, ac ni fu'n bosib cwblhau'r rownd olaf.

Luke Donald a David Howell yw cynrychiolwyr Lloegr gyda Padraig Harrington a Paul McGinley - oedd yn fuddugol ym 1997 - yn cynrychioli Iwerddon.

Mae nifer o'r enwau mawr - gan gynnwys Tiger Woods ac Ernie Els - wedi gwrthod y cyfle i gymryd rhan.

Stewart Cink a JJ Henry yw cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau gyda Rory Sabbatini a Richard Sterne yn chwarae dros De Affrica.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy