05 Medi 2007
Mae gan Gymru ddwy gêm ryngwladol y penwythnos yma wrth i'r tîm pêl-droed herio'r Almaen yng ngemau rhagbrofol Ewro 2008 cyn i'r gwŷr rygbi ddechrau eu gemau yng Nghwpan y Byd yn erbyn Canada ddydd Sul.
Does 'na'm llawer o bobl yn credu bod gan Gymru gyfle yn erbyn Yr Almaen yn Stadiwm y Mileniwm.
Wedi'r cwbwl, mae'r Almaenwyr yn bumed ar restr detholion Fifa, tra bo Cymru'n ymdrybaeddu yn rhif 74.
Ond yn ôl ym 1991 llwyddodd Ian Rush i rwydo unig gôl y gêm ar Barc yr Arfau wrth i Gymru drechu tîm Berti Vogts, oedd yn bencampwyr y byd ar y pryd.
Yn y byd rygbi, ni fyddai 'na unrhyw amheuaeth am ganlyniad gêm rhwng y pumed detholyn ar restr y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (IRB), - Iwerddon - a'r wlad sy'n rhif 74 ar y rhestr - Gwlad Thai.
Ond yn anffodus, 'does 'na'm rhaid defnyddio esiamplau mor eithafol â hynny.
Bydd Portiwgal, sy'n rhif 21 ar rest yr IRB, yn herio'r prif ddetholion, Seland Newydd, yng Ngrŵp C o Gwpan Rygbi'r Byd a 'does neb y disgwyl i'r Crysau Duon sgorio llai na 100 o bwyntiau yn erbyn Os Lobos.
Mae un aelod o garfan Portiwgal yn chwarae ei rygbi yn nhrydedd adran Ffrainc ond mae'r gweddill yn chwaraewyr amatur.
'Dw i wir yn poeni am les chwaraewyr Portiwgal yn y gêm yna yn erbyn chwaraewyr proffesiynol y Crysau Duon.
A dyna pam y dylai'r byd rygbi fod wedi derbyn cynnig Lloegr i lwyfannu Cwpan y Byd 2007.
Roedd yr RFU wedi cynnig Cwpan y Byd i 16-tîm gyda chystadleuaeth i'r gwledydd llai yn cael ei gynnal ar yr un pryd.
Wrth wneud hynny, byddai'r gwledydd llai wedi cael cystadlu mewn twrnament efo gwledydd eraill o'r un safon ond ar yr un pryd bod yn rhan o Gwpan y Byd.
Byddai gemau'r brif gystadleuaeth wedi bod yn llawer mwy cystadleuol ac o'r herwydd yn fwy deniadol i'r cefnogwyr.
A thra bo gwledydd fel Ariannin, Tonga, Fiji ac America yn cael mwy o arian i ddatblygu'r gamp, ni fyddai'r gwledydd bychain fel Georgia, Namibia a Georgia yn gorfod mynd adref ar ôl dioddef sawl crasfa.