16 Gorffennaf 2007
Yn gyntaf, mae'n rhaid i mi ymddiheuro am y diffyg dyddiaduron dros gyfnod yr haf ... ond mae hi wedi bod yn haf distaw iawn o ran chwaraeon.
Fel arfer mae 'na Gemau Olympaidd, Gemau'r Gymanwlad, Cwpan y Byd neu Bencampwriaethau Pêl-droed Ewrop i'w mwynhau, ond eleni does 'na ddim byd mor fawr â hynny i'n diddanu.
Yn bersonol, dim ond un gamp dw i'n ei mwynhau dros gyfnod yr haf ... na, nid Wimbledon a'r heip blynyddol dros Tim Henman neu Andy Murray ... ond y Tour de France.
Bob blwyddyn mae fy nghydweithwyr yn swyddfa'r BBC ym Mangor yn edrych yn syn wrth i mi drafod campau'r peleton neu glodfori gwaith caled y domestiques.
Ond mae Le Tour yn rhywbeth sydd wedi fy nghyffroi ers fy mhlentyndod.
Dw i'n cofio gwirioni'n lan wrth wylio'r Milk Race - fersiwn Prydain Fawr o'r Tour de France - yn gwibio heibio i'n tŷ ni yng Nghemaes, Sir Fôn yn ystod y 1970au hwyr.
Ac mae enwau fel Eddy Mercx, Bernard Hinault a Miguel Indurain yn f'atgoffa o rasio o gwmpas y pentref ar fy meic tra'n gwisgo rhyw hen grys-t melyn.
Eleni mae 'na Gymro'n cystadlu yn y Tour am y tro cyntaf ers 1967 wrth i Geraint Thomas, aelod o dîm Barloworld, geisio cyrraedd y Champs Elysees ar 29 Gorffennaf.
Cofiwch y gallwch ddilyn y ras ac ymdrechion Geraint ar y safle chwaraeon.
 |