BBC HomeExplore the BBC

GWENER
11eg Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cofnodi'r Campau

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 01 Mehefin 2007
Cofnodi'r Campau

Gohebydd chwaraeon BBC Cymru'r Byd, Gary Pritchard, sydd yn cymryd cipolwg ar rai o straeon y byd chwaraeon sydd wedi dal ei sylw yn ystod yr wythnos aeth heibio.

01 Mehefin 2007
Wedi'r holl ffys a ffwdan a hw-ha am ymddeoliad Ryan Giggs o bêl-droed rhyngwladol, dechreuais feddwl faint o wahaniaeth fydd colli Giggs yn ei wneud i bêl-droed Cymru.

Yn sicr, Giggs ydi'r unig superstar sydd gynnon ni yng Nghymru.

Fel cefnogwr sy'n teithio'r byd yn gwylio Cymru, mae dyn yn dechrau arfer â'r ffaith nad yw trigolion lleol yn gwybod rhyw lawer am Gymru fel gwlad heb sôn am ein tîm pêl-droed.

Ond, yn ddi-os, mae pobl ledled y byd wedi clywed am Ryan Giggs ac yn barod iawn i'w drafod.

Ryan Giggs

Roedd y porthor yn ein gwesty yn Baku eisiau gwybod a fydden ni'n gallu trefnu iddo gael ei lofnod tra bod gyrrwr tacsi yn San Jose, oedd yn deall dim byd arall am bêl-droed (neu soccer fel oedd o'n dweud) yn gwybod yn iawn pwy oedd Ryan Giggs.

Er hyn oll, mae'n dweud cyfrolau mai dim ond un cap yn fwy na Dave Phillips y bydd Giggs wedi ennill yn ystod ei yrfa ryngwladol... a dydw i ddim yn golygu dim amharch i Phillips wrth ddweud hynny.

Gwnaeth y bachgen ifanc o Salford ei ymddangosiad cyntaf dros ei wlad fel eilydd yn yr Almaen ym 1991 - gêm arall welodd Cymru'n boddi yn ymyl y lan wrth geisio cyrraedd un o brif bencampwriaethau'r byd pêl-droed.

Torrodd record John Charles fel chwaraewr ieuengaf Cymru y noson honno wrth i'r rheolwr, Terry Yorath, yrru'r bachgen yn 17 mlwydd 321 diwrnod oed i'r maes.

Mae Cymru wedi chwarae 116 o gemau ers y noson honno yn Nuremburg sy'n golygu bod Giggs wedi colli 52 o gemau rhyngwladol.

Dw i'n cofio rhwystredigaeth rhai o'm ffrindiau pan fu'n rhaid iddyn nhw adael yr awyren oedd i fod i'w cludo i Minsk ar gyfer y gêm yn erbyn Belarws ym 1999.

Roedd yr awyren, oedd yn cludo'r chwarwewyr, swyddogion a rhai o'r cefnogwyr yn rhy drwm, ac o'r herwydd bu'n rhaid i rai o'r cefnogwyr aros am awyren arall.

"Pam mae Giggs yn cael aros ar yr awyren," bloeddiodd un o'm ffrindiau. "Dw i wedi bod i fwy o gemau Cymru na fo!"

Mae 'na achlysuron eraill pan mae rhai Cymry wedi cwestiynu awch Giggs i chwarae dros ei wlad.

Mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Croatia yn 2002 fe sgoriodd chwaraewr canol cae Cymru, Simon Davies, gôl odidog i roi Cymru ar y blaen.

Wedi dawnsio heibio sawl un o'r gwrthwynebwyr, tarodd Davies ergyd hyfryd i gefn y rhwyd cyn dathlu o flaen cefnogwyr Cymru oedd eisoes yn canu "Are you watching Ryan Giggs?"

Ryan Giggs

Mae ei ddiffyg ymddangosiadau mewn gemau cyfeillgar yn golygu y bydd rhai o gefnogwyr Cymru'n dadlau am flynyddoedd i ddod am ei le ymhlith anfarwolion pêl-droed y genedl.

A ddylai o fod yn uwch ei barch na John Charles? Cofiwch fod Charles ei hun wedi colli nifer o gemau Cymru tra'n chwarae i Juventus

Bu bron iddo golli Cwpan y Byd ym 1958 hyd yn oed, gan i Juve fynnu ei fod yn chwarae mewn un o gemau Cwpan yr Eidal oedd wedi ei threfnu ar yr un pryd â Chwpan y Byd wedi i'r Azzurri fethu â chyrraedd Sweden.

Y gwir plaen amdani yw mai Giggs ydi'r chwaraewr gorau sydd erioed wedi cynrychioli ein gwlad fach ni - mae o wedi chwarae ar y lefel uchaf un i un o glybiau mwyaf y byd am dros 15 mlynedd.

Bydd Cymru yn siŵr o golli presenoldeb Giggs, yn siŵr o golli ei brofiad yn yr ystafell newid a'i allu i newid cwrs gêm gydag eiliad o athrylith.

Ond y golled fwyaf i Gymru fydd colli llysgennad i'r gêm - un all ysbrydoli cefnogwyr ifanc y dyfodol.

Giggs ydi'r un mae pawb eisiau ei weld - es i â chriw o dîm dan-9 Y Fali i'r Cae Ras y Sadwrn diwethaf ar gyfer y gêm gyfeillgar efo Seland Newydd.

Er y canlyniad a'r perfformiad siomedig, roedd pob un wedi cyffroi o fod wedi gweld Ryan Giggs yn y cnawd.

Ar y bws yn ôl i Sir Fôn roedd pob un yn byrlymu siarad am Ryan Giggs hyn a Ryan Giggs llall.

Felly'r ateb i'r cwestiwn ydi bydd colli Ryan Giggs yn ergyd drom i bêl-droed Cymru - ar y maes ac oddi arno.

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy