22 Mai 2007
Wedi'r holl heip a'r holl ffys o weld Cwpan FA Lloegr yn dychwelyd i Wembley, roedd y gêm rhwng Chelsea a Manchester United yn siom a dweud y lleiaf.
Pe na bai angen i mi sgwennu adroddiad o'r gêm ar gyfer gwefan Cymru'r Byd, dw i'n siwr y byddai rhyw ffilm ryfel du a gwyn ar BBC2 wedi dwyn fy sylw.
Er hynny, mae'n rhaid canmol yr FA am geisio gwneud y gêm yn achlysur arbennig unwaith eto.
Ers talwm, rownd derfynol Cwpan yr FA oedd yr unig gêm bêl-droed oedd ar y teledu ac roedd pawb yn edrych ymlaen at y diwrnod mawr.
Erbyn heddiw mae cannoedd o gemau ar y teledu ac mae'r Cup Final wedi colli ychydig o'i sglein.
Ond roedd gweld arwyr y gorffennol yn camu i'r maes yn Wembley cyn y gêm ddydd Sadwrn yn sbardun i nifer o atgofion melys.
Roedd yn braf gweld Cymry fel Mark Hughes a Graham Williams yn cael eu cyflwyno i'r dorf, ac roedd gweld lluniau o gôl Bobby Stokes i Southampton ym 1976 - y gêm gyntaf rwy'n ei chofio - yn hyfryd.
Dw i wir yn gobeithio y bydd rownd derfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop yn well gêm o beth coblyn, ond dw i 'n amau'n gryf a fydd hi cystal â'r gêm yn Istanbul yn 2005.
Mae Milan wedi dysgu gwers o'r hyn ddigwyddodd bryd hynny a phetai'r Rosonerri yn llwyddo i sicrhau tair gôl o fantais yn Athen, go brin y byddai Lerpwl yn gallu brwydro'n ôl.
Gyda Peter Crouch a Dirk Kuyt yn debygol o ddechrau'r gêm mae'n siwr mai eilydd fydd Craig Bellamy wrth iddo geisio sicrhau ei le fel y pedwerydd Cymro i ennill Cwpan y Pencampwyr.
Newyddion da i'r byd rygbi
Roedd newyddion da i fersiwn rygbi o Gwpan Ewrop yr wythnos yma wrth i glybiau Lloegr a chlybiau Ffrainc gytuno i chwarae yng Nghwpan Heineken y tymor nesaf.
Mae'n amlwg mai dyma ydi prif gystadleuaeth clybiau hemisffer y gogledd a byddai wedi bod yn siom anferthol petai'r gystadleuaeth wedi troi'n rhyw fath o Gynghrair Celtaidd efo timau o'r Eidal.
Dw i'n gwybod, o brofiad yma yn y gogledd, bod Cwpan Heineken yn ennyn diddordeb yn rygbi rhanbarthol Cymreig sydd ddim yn bodoli o wythnos i wythnos.
Mae digon o bobl yn gwylio'r Chwe Gwlad, ond byddai dim syniad gan y rhan fwyaf ohonyn nhw pwy ydi maswr Y Dreigiau neu pwy ydi wythwr Y Gweilch.
Ond mae Cwpan Heineken wedi llwyddo i gyffroi'r cefnogwyr yma ac mae angen hynny os ydy rygbi rhanbarthol i lwyddo yng Nghymru.