07 Mai 2007
Prynhawn o densiwn a drama ar Y Cae Ras
Cefais i'r fraint o weithio ar y Kop ar ran rhaglen Camp Lawn ar Radio Cymru brynhawn Sadwrn ar gyfer y gêm enfawr yn erbyn Boston.
Roedd yn brofiad gwych cael dychwelyd i'r union fan lle roeddwn wedi treulio'r 80au a'r 90au yn gwylio 'sêr' fel Vince O'Keefe, Mark Sertori, Dean Spink a Nigel Beaumont wrth i'r Robins ... nid Y Dreigiau ... golli yn erbyn timau fel Henffordd a Halifax cyn gorffen ar waelod y gynghrair bêl-droed.
Ond roedd yna ddyddiau da hefyd. Roeddwn wedi sefyll ar y Kop er mwyn dathlu dyrchafiad i'r drydedd adran, wedi gwylio Wrecsam yn chwalu Rotherham 7-0, ac wedi canu caneuon am Gary 'Psycho' Bennett a chlodfori sgiliau 'King' Karl Connolly.
Mae pawb yn gwybod am y buddugoliaethau dros Arsenal, Ipswich a Middlesbrough yng Nghwpan FA Lloegr, wel roedd yr awyrgylch ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn yn debyg iawn i'r dyddiau hynny.
Roedd yr awyrgylch yn drydanol gyda phob eisteddle'n orlawn ac mae'r lluniau teledu o'r Kop yn ei lawn ogoniant yn gyrru ias oer i lawr fy nghefn bob tro dw i wedi eu gwylio ers dydd Sadwrn ... a dw i wedi eu gwylio drosodd a throsodd!
Ond pan sgoriodd Boston roedd y lle fel y bedd ... roedd dyn yn gallu clywed chwaraewyr a chefnogwyr Boston yn dathlu ac roedd pawb yn meddwl y gwaethaf.
Ond o mor wahanol oedd yr awyrgylch wedi i Ryan Valentine rwydo o'r smotyn - er, weles i mo'r bêl yn taro'r rhwyd, oherwydd roeddwn i a channoedd o gefnogwyr y Kop wedi methu gwylio'r gic!
Roedd dagrau'n llifo i lawr fy moch wrth ddisgrifio'r awyrgylch ar y Kop i wrandawyr Radio Cymru ar ôl gôl Chris Llewellyn.
Ac wrth i Nic Parry, oedd yn sylwebu ar ran Radio Cymru, ofyn am fy ymateb wedi'r drydedd gôl, roeddwn i'n neidio i fyny ac i lawr fel ffŵl ac yn cael clamp o sws gan un o fy ffrindiau!
Ar ôl y chwiban olaf, llifodd y cefnogwyr i'r maes er mwyn dathlu â'u harwyr.
Gadawodd chwaraewr canol cae Wrecsam, Danny Williams, y maes yn ei drôns wrth i gefnogwyr larpio ei grys, ei siorts a'i sanau fel swfenîr ... a dw i'n siŵr y byddai wedi colli ei drôns hefyd heblaw am y ffaith ei fod yn ddyn swil!
Bron i ddwy awr wedi'r chwiban olaf, roedd y tîm sylwebu'n parhau i fod yn lloc y wasg yn sgwrsio ac yn trafod emosiwn y diwrnod gyda llu o gyn-arwyr Wrecsam.
Daeth Joey Jones a Mickey Thomas heibio am sgwrs; roedd Dixie McNeil ar ben ei ddigon; a chefais y fraint o holi cyn golwr Wrecsam, Brian Lloyd.
Buom yn hel atgofion am y dyddiau a fu - trechu Porto diolch i gôl hwyr gan Barry Horne, y gêm yn erbyn Anderlecht yn rownd wyth olaf Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop, ennill dyrchafiad i'r hen ail adran o dan Arfon Griffiths ac, wrth gwrs, curo Arsenal yng Nghwpan Lloegr.
Roedd pawb o'r un farn - 'mae Wrecsam yn glwb sy'n llawer rhy fawr i ddisgyn allan o'r gynghrair'.
Y gobaith mawr yw mai dyma'r tro olaf y bydd rhaid i ni brofi'r fath brynhawn ... does 'na ddim ffordd yn y byd y galla i fynd trwy hyn fyth eto!