BBC HomeExplore the BBC

LLUN
30ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cofnodi'r Campau

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 03 Mai 2007
Cofnodi'r Campau

Gohebydd chwaraeon BBC Cymru'r Byd, Gary Pritchard, sydd yn cymryd cipolwg ar rai o straeon y byd chwaraeon sydd wedi dal ei sylw yn ystod yr wythnos aeth heibio.

03 Mai 2007
Cyhoeddi carfannau

Mae dwy garfan ryngwladol wedi eu cyhoeddi yr wythnos yma - carfan rygbi Cymru ar gyfer y daith i Awstralia a charfan pêl-droed Cymru ar gyfer y gemau yn erbyn Seland Newydd a'r Weriniaeth Siec.

Ar 26 Mai bydd bechgyn y bêl hirgron yn herio Awstralia yn Sydney yn y bore, tra bod y bechgyn pêl-droed yn wynebu Seland Newydd ar Y Cae Ras yn y prynhawn.

Yna, wythnos yn ddiweddarach, bydd y bois rygbi wedi symud i Brisbane ar gyfer yr ail gêm brawf yn erbyn Awstralia tra bod bechgyn y bêl gron yng Nghaerdydd er mwyn herio'r Weriniaeth Siec yng ngemau rhagbrofol Ewro 2008.

Bydd yn bythefnos gwych i gefnogwyr chwaraeon Cymreig, ond a fyddwn ni yn gallu dathlu unrhyw lwyddiant?

Wel, er ei fod yn ystrydeb dweud nad oes unrhyw gêm yn y byd pêl-droed yn hawdd, mae'n rhaid dweud y byddai'n sioc anferthol petai Seland Newydd yn curo Cymru.

Dydy'r Kiwis ddim wedi ennill ers curo Georgia mewn gêm gyfeillgar ym mis Mai y llynedd ac mae nhw'n rif 132 ar restr detholion Fifa - un safle'n is na Liechtenstein.

O ran y rygbi, mae Gareth Jenkins wedi dewis teithio â charfan arbrofol - bydd 16 o'r prif chwaraewyr gan gynnwys y capten, Stephen Jones, a'r mewnwr, Dwayne Peel, yn cymryd rhan mewn sesiynau ymarfer.

Er hynny, mae hyfforddwr Awstralia, Scott Johnson, wedi bod yn sydyn iawn i atgoffa'r cyhoedd bod chwech o'r garfan fydd yn teithio yn aelodau o garfan y Llewod aeth i Seland Newydd yn 2005.

Ond, mae gen i ofn bod gan Johnson fwy o ffydd yn y Cymry na' sydd gen i!

Petai Cymru'n trechu Awstralia ar y maes rygbi, byddai'n fwy o sioc na phetai Cymru'n trechu'r Weriniaeth Siec ar y maes pêl-droed yn y prynhawn.

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy