BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
30ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 30 Hydref 2009
Arwr Tawel y Byd Chwaraeon 2009
*** Enwebiadau yn cau am hanner nos, dydd Gwener, 30 Hydref 2009 ***

Fel rhan o raglen Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn 2009, mae BBC Cymru unwaith yn rhagor yn gobeithio anrhydeddu unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i fyd y campau.

Arwr Tawel 2009, Cliff WilliamsBydd enillydd Arwr Tawel BBC Cymru yn un o 15 enillydd cenedlaethol a rhanbarthol fydd yn cael ei ystyried ar gyfer y brif wobr drwy Brydain.

Rydym yn chwilio am berson sydd wedi gweithio'n galed i hyrwyddo chwaraeon yn eu cymunedau yng Nghymru a hynny heb unrhyw dal.

Bydd y person yn cynnig eu hamser a'u talentau i helpu eraill i gymryd rhan mewn chwaraeon. Fe all hyn fod trwy helpu unigolyn, tîm neu dimau.

  • Fe all y gamp fod ar unrhyw lefel
  • Ni ddylai'r unigolion fod yn cael eu talu am eu hymdrech
  • Mae'n rhaid i'r unigolyn fod yn 16 mlwydd oed neu'n hŷn

Panel o feirniaid, fydd yn cynnwys aelodau o staff adran Chwaraeon BBC Cymru ac arbenigwyr chwaraeon lleol eraill, fydd yn dewis yr enillydd ar gyfer gwobr Arwr Tawel BBC Cymru 2009.

Bydd 15 o enillydd o Ogledd Iwerddon, Yr Alban, Cymru a rhanbarthau Lloegr yn cael eu dewis.

A bydd y 15 hynny yn cael gwahoddiad i raglen Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn yn Sheffield, fydd yn cael ei ddarlledu ar 13 Rhagfyr ar BBC One, lle bydd un yn cael ei ddewis fel yr enillydd cyffredinol.

Enillwyr blaenorol

Margaret Simons enillodd y brif wobr yn 2007. Mae hi wedi bod yn gyfrifol am Glwb Pêl-droed Bardwell yn Swydd Rhydychen ers ei sefydlu yn 1964.

Ben Geyser, sy'n rhedeg Clwb Bocsio Dorchester oedd yn fuddugol yn 2008.

Yr enillydd yng Nghymru yn 2008 oedd Cliff Williams, cadeirydd Clwb Rygbi Pont-Y-Clun.

Cliff, sydd yn gyfrifol am baratoi'r meysydd a glanhau'r ystafell newydd, oedd sylfaenydd Cynghrair Pêl-droed Bro Morgannwg yn y Saithdegau.

Sut i enwebu

Er mwyn enwebu eich Arwr Tawel, llenwch y ffurflen gais canlynol:

Ffurflen enwebu Arwr Tawel y byd chwaraeon

Anfonwch y ffurflen, cyn y dyddiad cau o Ddydd Gwener, 30 Hydref 2009 at:

Lawrence Hourahane,
Arwr Tawel y Byd Chwaraeon y BBC 2009,
Adran Chwaraeon BBC Cymru,
Y Ganolfan Ddarlledu,
Ffordd Llantrisant,
Llandaf,
Caerdydd,
CF5 2YQ.

Neu e-bostiwch y ffurflen at lawrence.hourahane@bbc.co.uk

Neu cwblhewch y ffurflen fan hyn neu ar-lein isod a chliciwch ar "Anfon" ar y gwaelod.

Er mwyn gwneud cais, sicrhewch fod pob rhan o'r ffurflen wedi eu llenwi. Ni fydd posib derbyn enwebiadau sydd ddim yn cynnwys manylion yr enwebydd.

Mae'n ofynnol bod enwebion wedi cael eu hysbysu ac wedi cytuno i gael eu cyflwyno.

Mae penderfyniad y beirniaid yn derfynol a ni chaniateir unrhyw ohebiaeth mewn perthynas â'u penderfyniad.

Mae'r gystadleuaeth yn cydymffurfio gyda chôd ymarweddiad y BBC ynglŷn â Chystadlaethau a Phleidleisio sydd wedi ei gyhoeddi ar wefan y BBC.

Termau ac amodau

Rhan 1 - Manylion

Eich Manylion

Manylion ry’ chi’n enwebu


 

Cadarnhewch fod eich enwebeion yn fodlon cael eu henwebu?

A yw eich enwebai yn fodlon ymddangos ar wasanaethau’r BBC (Teledu/Radio/Ar-lein)?

Manylion y Clwb / y Sawl y mae eich Enwebai yn eu helpu

 


Nodwch ymhle cawsoch wybod am y wobr arwr tawel y byd chwaraeon



Rhan 2 - Enwebiad

Defnyddiwch yr adran ganlynol i anlinellu pam eich body n teimlo bod y person dan sylw yn haeddu cael eu cydnabod fel arwr tawel y byd chwaraeon.

Rhan 3 - Datganiad opsiynol

Termau ac amodau:

  • Rhaid i chi fod o leiaf 16 mlwydd oed.
  • Ni all enwebeion enwebu eu hunain na chael eu henwebu gan aelod o'u teulu agos.
  • Ni ddylai’r enwebai gael eu cyflogi gan y clwb neu’r unigolyn maent yn helpu.
  • Ni all y sawl sy'n cael ei enwebu fod yn chwaraewr sy'n cymryd rhan yn y grwp chwaraeon y mae'n ei helpu.
  • Nid yw’r enwebai yn gymwys os ydynt eisioes wedi ennill gwobr Arwr Tawel y Byd Chwaraeon y BBC.
  • Nid yw gweithwyr y BBC yn ogystal â'u teuluoedd agos, yn gymwys i'w enwebu.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy