Bydd yr enillydd yn derbyn y wobr ar raglen Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru ar ddydd Sul 2 Rhagfyr ac yn cael gwahoddiad i raglen Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn ar ddydd Sul 9 Rhagfyr yn Birmingham.
Mandy Keating o Glwb Pêl-droed Bechyn a Merched Georgetown ger Merthyr gipiodd y wobr Gymreig y llynedd.
Rydym yn edrych am unigolyn sydd yn gwirfoddoli ac yn gwneud gwahaniaeth i chwaraeon yn eich ardal chi.
- Mae'n rhaid iddynt fod yn rhoi eu hamser yn wirfoddol i sicrhau bod eraill yn gallu cymryd rhan yn y gamp dan sylw.
- Fe all hyn fod trwy helpu unigolyn, grŵp, tîm neu dimau.
- Gall y gamp dan sylw fod ar unrhyw lefel.
- Ni ddylai'r unigolion fod yn cael eu talu am eu hymdrech.
- Mae'n rhaid i'r unigolyn fod yn 16-mlwydd-oed neu'n hŷn.
Mae hon yn gystadleuaeth sydd yn cael ei chynnal ar hyd a lled y Deyrnas Unedig.
Bydd 15 o fuddugwyr o Ogledd Iwerddon, Yr Alban, Cymru a rhanbarthau Lloegr yn cael eu dewis
Bydd y 15 hynny yn cael gwahoddiad i raglen Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn yn Birmingham, lle bydd enw un enillydd yn cael ei gyhoeddi.
Er mwyn gwneud eich enwebiad bydd angen i chi gwblhau pob rhan o'r ffurflen gais.
Bydd angen i'r ffurflen ein cyrraedd ni cyn y dyddiad cau sef dydd Sadwrn 3 Tachwedd. Gyrrwch eich ffurflen at:
Arwr Tawel BBC 2007
Adran Chwaraeon BBC Cymru
Y Ganolfan Ddarlledu
Llandaf
Caerdydd
CF5 2YQ
Bydd rhaid i'r person sydd wedi derbyn yr enwebiad fod yn ymwybodol o hynny ac wedi cytuno i fod yn rhan o'r gystadleuaeth. Ni allwn dderbyn unrhyw gais heb fanylion y person sydd yn cael eu henwebu.
Fe all pobl sydd wedi eu henwebu dderbyn cais i ymddangos ar raglenni radio a theledu BBC. Bydd penderfyniad y beirniaid yn un terfynol, ac ni fydd y BBC yn barod i drafod y penderfyniad.
 |