BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 16 Medi 2008
Adolygiad Chwaraeon 2007
MEDI
Llwyddodd Asafa Powell o Jamaica i dorri record 100m y byd ag amser o 9.74 eiliad yn ystod Grand Prix IAAF Rieti.

> Powell yn torri record y 100m

Jose Mourinho yn gadael Chelsea wedi tair blynedd ac ar ôl arwain y clwb i ddwy bencampwriaeth yr Uwchgynghrair yn ei ddau dymor cyntaf wrth y llyw.

> Mourinho yn gadael Chelsea

Clwb Rygbi Gleision Caerdydd yn cyhoeddi cynlluniau i rannu efo Clwb Pêl-droed Caerdydd yn eu stadiwm newydd yn Leckwith.

Nicole Cooke

Methiant fu ymgais Nicole Cooke i amddiffyn ei choron yng Nghwpan y Byd wrth i Marianne Vos o'r Iseldiroedd ennill ras olaf y tymor yn Nurnberg.

> Siom i Cooke yn Yr Almaen

Roedd Cooke wedi arwain y gystadleuaeth tan y ras olaf yn Yr Almaen.

Wedi methiant Cymru i gyrraedd rownd wyth olaf Cwpan y Byd ar ôl colli yn erbyn Fiji, fe gafodd Gareth Jenkins ei ddiswyddo.

> Undeb Rygbi yn diswyddo Jenkins

Becky Brewerton

Becky Brewerton oedd y Gymraes gyntaf i gynrychioli Ewrop yng Nghwpan Solheim - ond colli fu hanes y tîm yn erbyn yr Unol Daleithiau.

> Merched America'n ennill Cwpan Solheim

Hywel Lloyd o Gorwen yn ennill Pencampwriaeth Formula Renault yn Oulton Park.

Bu'n dymor llwyddiannus i'r Celtic Crusadersm, enillodd Adran Dau y Gynghrair Genedlaethol rygbi xiii.

> Coroni'r Crusaders yn bencampwyr

Ond roedd hi'n dymor siomedig i Forgannwg, gyda Robert Croft yn cael ei ddewis fel chwaraewr y flwyddyn a James Harris yn ennill y wobr ar gyfer chwaraewr ifanc y flwyddyn.

Llwyddodd Croft i gipio ei 1,000fed wiced - y Cymro cyntaf i gipio 1,000 wiced a sgorio 10,000 o rediadau dosbarth cyntaf.

HYDREF
De Affrica yn ennill Cwpan Rygbi'r Byd am yr eildro gyda buddugoliaeth dros Loegr yn y Stade de France.

> Y Boks yn bencampwyr y byd

Simon Jones

Penderfynodd bowliwr cyflym Lloegr Simon Jones i adael Morgannwg ar ôl gwrthod arwyddo cytundeb newydd.

> Jones yn gadael Morgannwg

Mae Jones wedi ymuno â Swydd Caerwrangon ac yn gobeithio ad-ennill ei le yn nhîm Lloegr.

Daeth Lewis Hamilton i amlygrwydd byd eang wedi tymor gwefreiddiol yn Fformiwla Un, ond Kimi Raikkonen goronwyd yn bencampwr byd wedi buddugoliaeth ym Mrasil.

> Raikkonen yn ennill ym Mrasil

Wedi canlyniad a pherfformiad gwael yn erbyn Cyprus, roedd y rheolwr John Tosack yn feirniadol o rai o chwaraewyr Cymru.

> Toshack yn beirniadu agwedd chwaraewyr

TACHWEDD

Dechreuodd y mis ar nodyn trist gyda'r newyddion bod cyn arwr rygbi Llanelli, Cymru a'r Llewod, Ray Gravell wedi marw yn 56 mlwydd oed yn dilyn salwch tra ar wyliau teuluol yn Sbaen.

> Teyrngedau'r Cymry i Ray Gravell

Roedd miloedd yn bresennol ar gyfer ei angladd ar Barc y Strade, maes y bydd Y Sgarlets yn ei adael yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Joe Calzaghe

Roedd hi'n noson gofiadwy yn Stadiwm y Mileniwm gyda Joe Calzaghe yn trechu Mikkel Kessler i ddod yn bencampwr WBA, WBC a WBO uwch ganol y byd.

> Buddugoliaeth wych i Calzaghe

Yn gynharach yn y noson roedd Enzo Maccarinelli wedi amddiffyn ei goron WBO go drwm wrth drechu Mohamed Azzaoui o Algeria.

> Enzo'n rhy gryf i Azzaoui

Penodwyd Warren Gatland fel hyfforddwr newydd tîm rygbi cenedlaethol Cymru gan olynu Gareth Jenkins.

> Gatland yn cymryd yr awenau â Chymru

Ni fydd tîm rygbi xiii Cymru yn cymryd rhan yng Nghwpan y Byd y flwyddyn nesaf ar ôl colli yn erbyn Yr Alban ac yna Libanus mewn gemau rhagbrofol.

> Cymru 26-50 Libanus

Wedi dechrau gwael i'w tymor yn Adran Dau, fe benododd Wrecsam y profiadol Brain Little, gyda Brian Carey yn ei gynorthwyo.

RHAGFYR
Sebastien Loeb

Y Ffrancwr Sebastien Loeb yn ennill Pencampwriaeth Rali'r Byd am y pedwerydd tro yn olynol ar ôl gorffen yn drydydd yn Rali Prydain yng Nghymru.

> Loeb yn cipio'r bencampwriaeth

Am yr ail flwyddyn yn olynol a'r trydydd tro yn ei yrfa, Joe Calzaghe yn cael ei enwi yn Bersonoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru.

Wythnos yn ddiweddarach enillodd Calzaghe Gwobr Prydeinig Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC.

Ac roedd rhagor o lwyddiant i'r teulu pan gafodd ei dad Enzo ei enwi yn Hyfforddwr y Flwyddyn.

> Noson i'w gofio i deulu Calzaghe

Roedd siom i focsiwr arall, gyda Ricky Hatton yn colli yn ei ornest yn erbyn Floyd Mayweather yn Las Vegas.

Cadeirydd Caerdydd, Peter Ridsdale yn cyfaddef y gall y clwb werthu chwaraewyr yn ystod y ffenestr drosglwyddo fis Ionawr oherwydd trafferthion ariannol.

Sgoriodd Ryan Giggs ei 100fed gôl gynghrair i Manchester United yn ystod eu buddugoliaeth yn erbyn Derby County yn Old Trafford.

Mewn diweddglo cyffrous, roedd Miko de Beauchene yn drech na Halcon Genelardais i ennill Grand National Cymru yng Nghasgwent.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy