|
Gorffennodd Jenkins 27 eiliad y tu ôl i'r enillydd Emma Moffatt o Awstralia gyda Lisa Norden o Sweden yn sicrhau'r fedal arian. Roedd y Brydeinwraig arall. Liz Blatchford yn ddegfed ac mae'r canlyniad yn golygu bod Jenkins wedi gorffen y gyfres yn bumed. Moffett enillodd Pencampwriaeth y merched gyda Alistair Brownlee o Brydain yn ennill cystadleuaeth y dynion.
 |