|
Colli oedd hanes Cymru 43-37 a hynny ar ôl bod ar y blaen 15-14 yn yr ail chwarter yn erbyn y tîm sydd yn lwyfannu'r gystadleuaeth. Bydd yn rhaid i Gymru drechu ffefrynnau Grŵp B, Lloegr yn eu gêm nesaf os am unrhyw gyfle o gyrraedd rownd yr wyth olaf. Roedd y canlyniad yn erbyn Ynysoedd Cook yn hynod siomedig meddai hyfforddwr Cymru, Mel Tuckwell.
 |