|
Gorffennodd Davies yn y chweched safle yn y ras dull rhydd dros 1500m mewn amser o 14 munud 57.03 eiliad. Roedd y nofiwr o'r Bari 20 eiliad tu ôl i'r enillydd, Oussama Mellouli o Dunisia. Gorffennodd Haffield yn olaf yn rownd derfynol y ras gymysg unigol dros 400m. Roedd ei amser o 4:13.63 dros ddwy eiliad yn arafach na'i amser yn y rownd gynderfynol pan dorrodd y gŵr o Gastedd-nedd record y Gymanwlad. Fe lwyddodd Davies i sefydlu record newydd hefyd yn Rhufain, drwy dorri'r record Brydeinig ddwywaith yn y ras 800m dull rhydd. Ac roedd yn rhan o dîm ras gyfnewid 4x200m dull rhydd Prydain a sefydlodd record Brydeinig newydd. Cyn cystadlu yn y ras 1500m, roedd Davies hefyd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y ras 400m ac 800m dull rhydd. Drwy gystadlu yn y rasys byrrach, gobaith Davies yw gallu nofio yn gyflymach dros 1500m erbyn y Gemau Olympaidd yn 2012. Dywedodd ei fod yn hapus gyda'i berfformiadau drwy gydol yr wythnos, ond cyfaddefodd bod yr holl rasys wedi bod yn straen fawr arno erbyn y diwedd. "Roedd hi'n ras anodd iawn yn y 1500m," dywedodd y nofiwr 24 mlwydd oed. "Dwi wedi cael rhaglen brysur iawn yr wythnos 'ma ac wedi gwneud llawer o bethau yn wahanol i'r arfer. "Dw i wedi nofio'n dda yn y 400m a'r 800m ond ar ôl wythnos anodd iawn roedd y ras olaf un yn ormod i mi."
 |