Chwaraeon Pêl-droed Abertawe Caerdydd Wrecsam Uwchgynghrair Cymru Pêl-droed Cyffredinol Rhyngwladol Rygbi Rhyngwladol Rhanbarthol Athletau Beicio Bocsio Criced Cyffredinol Golff Moduro Olympaidd Rasio Ceffylau Rygbi XIII Snwcer Tenis Canlyniadau
Mae'r Cymro David Davies wedi targedu buddugoliaeth yn rownd derfynol y 1500m dull rhydd ym Mhencampwriaeth Nofio'r Byd yn Rhufain.
Gosododd Davies record Brydeinig newydd yn rownd derfynol yr 800m dull rhydd ddydd Mercher.
Gorffennodd y gŵr o'r Barri yn bumed yn y ras gyda Lin Zhang o Tsiena yn cipio'r fedal aur.
Yr oedd Davies wedi gorffen yn olaf yn rownd derfynol y 400m dull rhydd dydd Sul a bydd yn cymryd rhan yn y ras gyfnewid 4x200m ddydd Gwener.