|
Cipiodd Phelps wyth medal aur yn y pwll nofio yn y Gemau Olympaidd yn Beijing y llynedd i ychwanegu at y chwech yr enillodd yn Athen yn 2004.
Ond mae'r Americanwr wedi mynnu nad yw'n fwriad ganddo amddiffyn yr wyth teitl yn Llundain ymhen tair blynedd.
Ac mae Haffield yn "edrych ymlaen" at Bencampwriaeth y Byd yn Rhufain ac yn gobeithio manteisio ar absenoldeb Phelps.
"Mae hynny'n dda oherwydd mae'n rhoi cyfle gwell i rhai eraill, fel fi," meddai Haffield.
"Yn y rownd derfynol yn Beijing, gorffennodd Phelps ryw dair eiliad ar y blaen i bawb arall.
"Fe sydd â'r record byd o hyd a bydd y record honno yn bodoli am amser i ddod felly bydd e wastad yn cael ei gofio.
"Ond mae'n rhoi cyfle i eraill ac mae'n gwneud y ras gymysg yn fwy cystadleuol oherwydd doedd neb yn gallu dod yn agos iddo."
Bydd Pencampwriaeth Nofio'r Byd yn dechrau yn Rhufain ar 17 Gorffennaf.
 |