BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan y Byd 2006

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Newidiwyd diwethaf: 20 Mehefin 2006
Sweden 2-2 Lloegr

Bydd Lloegr yn wynebu Ecuador yn rownd yr 16 olaf ddydd Sul wedi gêm gyfartal yn erbyn Sweden yn Cologne.

Henrik Larsson

Lloegr oedd ar y blaen ar yr egwyl wedi ergyd wych Joe Cole o 35 llath.

Ond roedd Sweden yn gyfartal wedi pum munud o'r ail hanner, diolch i beniad Marcus Allback o gic cornel Tobias Linderoth.

Sgoriodd yr eilydd Steven Gerrard i adfer mantais Lloegr, ond i Henrik Larsson unioni'r sgôr yn ystod yr amser ychwanegwyd ar gyfer anafiadau.

Bu'n rhaid i Michael Owen adael y maes yn ystod y munudau agoriadol ar ôl anafu ei ben-glin.

PRIF DDIGWYDDIADAU

Sgôr terfynol - Sweden 2-2 Lloegr

90 mun: Gôl - Sweden 2-2 Lloegr
Henrik Larsson

85 mun: Gôl - Sweden 1-2 Lloegr
Steven Gerrard

51 mun: Gôl - Sweden 1-1 Lloegr
O gic cornel Tobias Linderoth, Marcus Allback yn unioni'r sgôr gyda pheniad.

Hanner amser - Sweden 0-1 Lloegr

33 mun: Gôl - Sweden 0-1 Lloegr
Joe Cole gydag ergyd o 35 llath.

3 mun: Peter Crouch yn dod ymlaen i'r maes yn lle Michael Owen, ar ôl i'r ymosodwr anafu ei ben-glin.

TIMAU

Sweden: Isaksson, Lucic, Mellberg, Edman, Alexandersson, Linderoth (Andersson 90), Kallstrom, Ljungberg, Jonson (Wilhelmsson 54), Larsson, Allback (Elmander 74).
Eilyddion: Alvbage, Hansson, Ibrahimovic, Nilsson, Rosenberg, Shaaban, Stenman, Anders Svensson, Karl Svensson.

Lloegr: . Robinson, Carragher, Ferdinand (Campbell 56), Terry, Ashley Cole, Beckham, Lampard, Hargreaves, Joe Cole, Rooney (Gerrard 69), Owen (Crouch 4).
Eilyddion: Bridge, Carrick, Carson, Downing, James, Jenas, Lennon, Neville, Walcott.

Dyfarnwr: Massimo Busacca (Y Swisdir).


chwaraeon
Hanes y Gwpan
 
Y Timau
 


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy