BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
23ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan y Byd 2006

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Newidiwyd diwethaf: 25 Ebrill 2006
Gwlad Pwyl
Popeth fydd angen i chi wybod am dîm Gwlad Pwyl ar gyfer Cwpan y Byd 2006


Gemau Grŵp A:

v Ecuador
09 Mehefin 2000 BST, Gelsenkirchen

v Yr Almaen
14 Mehefin 2000 BST, Dortmund

v Costa Rica
20 Mehefin 1500 BST, Hanover



Roedd Gwlad Pwyl ar frig grŵp rhagbrofol Cymru am y rhan fwyaf o'r gemau rhagbrofol.

Ac er i Loegr gamu i'r brig a chipio lle yn Yr Almaen yn hwyr yn y dydd, llwyddodd y Pwyliaid i sicrhau lle fel un o'r timau gorau yn yr ail safle.

Hanes yng Nghwpan y Byd:
Llwyddodd Gwlad Pwyl i sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd 1974 - y tro cyntaf ers 1938 iddynt gyrraedd y bencampwriaeth -  a synnwyd y byd pêl-droed wrth iddynt drechu'r Ariannin, Yr Eidal, Sweden, Yugoslafia a Brasil a gorffen yn drydydd.

Ond wedi cyrraedd Cwpan y Byd 1978, 1982 ac 1986 - a gorffen yn drydydd am yr ail dro ym 1982 - ni lwyddodd y Pwyliaid i gyrraedd Cwpan y Byd eto tan 2002.

Sêr y tîm:
Mae priofiad yr amddiffynnwr, Tomasz Klos, yn allweddol ac er ei fod bellach yn chwarae i Wisla Krakow, mae wedi treulio amser ag Auxerre yn Ffrainc yn ogystal â Kaiserslautern a Cologne yn Yr Almaen.

Mae goliau Tomasz Frankowski wedi sicrhau ei le fel ffefryn y cefnogwyr ac yn ysbrydoliaeth ar gyfer ei lysenw - "Yr Heliwr Goliau". 

Barn BBC Cymru'r Byd:
Fe ddylai Gwlad Pwyl orffen yn ail yn y grŵp tu ôl i'r Almaen, ond mae'n annhebygol byddent yn camu ymhelach wrth iddynt orfod wynebu Lloegr neu Sweden yn yr ail rownd.

chwaraeon
Hanes y Gwpan
 
Y Timau
 


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy