BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan y Byd 2006

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Newidiwyd diwethaf: 21 Mehefin 2006
Cote d'Ivoire 3-2 Serbia a Montenegro

Brwydrodd Cote d'Ivoire yn ôl i drechu 10 dyn Serbia a Montengero yn Munich.

Roedd Serbia a Montenegro ar y blaen o 2-0 wedi 20 munud diolch i goliau Nikola Zigic a Sasa Ilic

Sgoriodd Aruna Dindane o'r smotyn i leihau mantais Serbia cyn i Albert Nadj gael ei yrru o'r maes ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Roedd Cote d'Ivoire yn gyfartal wedi peniad Dindane cyn Bonaventure Kalou sicrhau'r fuddugoliaeth gyda chic o'r smotyn.

Gorffennodd Cote d'Ivoire y gêm gyda deg dyn, pan welodd Domoraud y cerdyn coch.

PRIF DDIGWYDDIADAU

Sgôr terfynol: Cote d'Ivoire 3-2 Serbia a Montenegro

90 + 2 mun: Cerdyn Coch - Cyril Doromaud (Cote d'Ivoire)
Doromaud yw'r ail chwaraewr i dderbyn y cerdyn coch wedi tacl wael ar Savo Milosevic.

86 mun: Gôl - Cote d'Ivoire 3-2 Serbia a Montenegro
Bonaventure Kalou yn sgorioo o'r smotyn wedi i Milan Dudic lawio'r bêl, a hynny am yr eilwaith yn y gêm.

67 mun: Gôl - Cote d'Ivoire 2-2 Serbia a Montenegro
Aruna Dindane Yn unioni'r sgôr gyda peniad.

Hanner amser: Cote d'Ivoire 1-2 Serbia a Montenegro

45 mun: Cerdyn Coch - Albert Nadj (Serbia a Montenegro)
Yr eilydd yn cael ei yrru o'r maes wedi trosedd yn erbyn Abdulkader Keita.

35 mun: Gôl - Cote d'Ivoire 1-2 Serbia a Montenegro Aruna Dindane yn sgorio o'r smotyn wedi i Milan Dudic lawio'r bêl.

20 mun: Gôl - Cote d'Ivoire 0-2 Serbia a Montenegro Mae cic rhydd Pedrag Djordevic yn creu problemau yn amddiffyn Cote d'Ivoire ac mae Sasa Ilic yn sgorio.

10 mun: Gôl - Cote d'Ivoire 0-1 Serbia a Montenegro
Yn erbyn rhediad y chwarae mae Nikola Zigic yn sgorio gôl gyntaf Serbia a Montengero yn y gystadleuaeth.

TIMAU

Cote d'Ivoire: Barry, Boka, Kouassi, Domoraud, Eboue, Akale, Zokora, Keita, Gneri Yaya Toure, Arouna Kone, Dindane.
Eilyddion: Demel, Fae, Gnanhouan, Kalou, Bakari Kone, Meite, Romaric, Tizie, Kolo Toure, Yapi Yapo, Zoro.

Serbia & Montenegro: Jevric, Gavrancic, Nenad Djordjevic, Dudic, Krstajic, Ergic, Duljaj, Stankovic, Predrag Djordjevic, Ilic, Zigic.
Eilyddion: Basta, Dragutinovic, Kovacevic, Ljuboja, Milosevic, Nadj, Stojkovic, Vidic, Vukic, Petkovic.

Dyfarnwr: Marco Rodriguez (Mecsico).


chwaraeon
Hanes y Gwpan
 
Y Timau
 


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy