BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan y Byd 2006

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Newidiwyd diwethaf: 09 Gorffennaf 2006
Yr Eidal yn ennill Cwpan y Byd o'r smotyn

Yr Eidal gipiodd Cwpan y Byd 5-3 ar giciau o'r smotyn yn erbyn 10-dyn Ffrainc wedi i Zinedine Zidane gael ei hel o'r maes yn yr amser ychwanegol wedi gêm gyfartal 1-1.


Wedi gêm ddifyr tu hwnt, Fabio Cannavaro gododd y tlws ar noson lle roedd yn ennill ei 100ed cap i'r Azzurri.

Yn y loteri o'r smotyn, rhwydodd Fabio Grosso gic olaf yr Eidalwyr i ennill y gêm wedi i David Trezeguet fethu ei gic i'r Ffrancwyr.

Ond bydd y rownd derfynol yn cael ei chofio am eiliad o walltgofrwydd gan Zidane wrth i gapten Les Bleus weld cerdyn coch yn ei gêm olaf cyn dod â'i yrfa i ben.

Collodd ei ben yn llwyr gan benio amddiffynnwr Yr Eidal, Marco Materazzi, yn ei frest yn ystod yr ail hanner o'r amser ychwanegol.

Ac, wedi i'r dyfarnwr, Horacio Elizondo, drafod â'i gyd swyddogion, cafodd Zidane y cerdyn coch a gadawodd y maes yn ei ddagrau.

Yn anffodus i un o chwaraewyr gorau ei genhedlaeth, bydd y lluniau ohonno yn penio Materazzi ac yna'n gadael y maes wrth gerdded heibio'r tlws, yn aros yn y cof am amser maith.

Roedd Zidane a Materazzi wedi bod yng nghanol y digwyddiadau trwy gydol y gêm.

Aeth Ffrainc ar y blaen yn y seithfed munud wedi i Zidane rwydo o'r smotyn yn dilyn trosedd fler gan Materazzi ar Florent Malouda yn y cwrt cosbi.

Torodd Zidane ei enw yn y llyfrau hanes, ochr yn ochr â Pele, Vava a Paul Breitner fel yr unig chwaraewyr i rwydo mewn dwy rownd derfynol o Gwpan y Byd.

Ond gwaneth cyn amddiffynnwr Everton, Materazzi, yn iawn am ei drosedd 12 munud yn ddiweddarach wrth iddo esgyn yn uwch na neb i benio cic gornel Andrea Pirlo i gefn y rhwyd.

Roedd Ffrainc yn ei chael yn anodd i amddiffyn ciciau gosod yr Azzurri a tharodd Luca Toni beniad yn erbyn y trawst o gornel arall gan Pirlo.

Cafodd y Ffrancwyr eu cyfleon hefyd gyda Thierry Henry a Franck Riberry yn creu problemau i Cannavaro a Gianluca Zambrotta yn yr amddiffyn.

Canfyddodd Toni gefn y rhwyd â pheniad wedi'r awr ond bu rhaid iddo roi'r gorau i ddathlu pan welodd bod lluman y dyfarnwr cynorthwyol yn yr awyr gan ei fod yn camsefyll.

Crymanodd Pirlo gic rhydd grafodd y postyn cyn i Buffon rwystro Zidane rhag rhwydo ei ail gôl â pheniad grymus.

Ond dyna oedd cyfraniad diwethaf Zidane cyn ei gerdyn coch ac er fod gweddill ei dîm wedi syfrdanu â'r hyn ddigwyddodd llwyddodd Les Bleus i ddal ymlaen a gorfodi ciciau o'r smotyn.

Llwyddodd Pirlo, Materazzi, Daniele de Rossi, Alessandro Del Piero a Grosso i rwydo o 12 llath wrth i'r Eidal gipio'r tlws am y pedwerydd tro yn eu hanes.

TIMAU

Yr Eidal: Buffon, Zambrotta, Cannavaro, Materazzi, Grosso, Camoranesi, Pirlo, Gattuso, Perrotta, Totti, Toni.

Eilyddion: Amelia, Barone, Barzagli, De Rossi, Del Piero, Gilardino, Iaquinta, Inzaghi, Nesta, Oddo, Peruzzi, Zaccardo.

Ffrainc: Barthez, Sagnol, Thuram, Gallas, Abidal, Ribery, Vieira, Makelele, Zidane, Malouda, Henry.

Eilyddion: Boumsong, Chimbonda, Coupet, Dhorasoo, Diarra, Givet, Govou, Landreau, Silvestre, Trezeguet, Wiltord.

Dyfarnwr: Horacio Marcelo Elizondo (Ariannin)


chwaraeon
Hanes y Gwpan
 
Y Timau
 


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy