BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan y Byd 2006

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Newidiwyd diwethaf: 24 Mehefin 2006
Ariannin 2-1 Mecsico

Roedd angen gôl odidog gan Maxi Rodriguez i wahanu Ariannin a Mecsico wedi gêm fendigedig a chyffrous yn Leipzig nos Sadwrn.

Yr Archentwyr oedd y ffefrynau clir cyn y gêm yn yr ail rownd, ond fe'u synwyd wedi pum munud yn unig wrth i Mario Mendez benio cic rhydd Pavel Pardo i lwybr Rafael Marquez i rwydo'r gôl agoriadol.

Ond, roedd Ariannin yn gyfartal o fewn munud wrth i Jared Borgetti droi'r bêl i'w rwyd ei hun o dan bwysau gan Hernan Crespo.

Cafwyd eiliad ddadleuol i orffen yr hanner cyntaf wrth i Gabriel Heinze dderbyn cerdyn melyn yn unig wedi iddo lorio Francisco Fonseca er mai ef oedd yr amddiffynnwr olaf.

A chafwyd diweddglo dadleuol i'r 90 munud hefyd wrth i'r dyfarnwr cynorthwyol nodi fod Pablo Aimar yn camsefyll cyn i Lionel Messi rwydo'r bêl, er fod lluniau teledu yn profi nad oedd hyn yn wir.

Ond yn hanner cyntaf yr amser ychwanegol cafwyd gôl arbennig i selio'r fuddugoliaeth wrth i Maxi Rodriguez reoli croesiad Juan Pablo Sorin ar ei fron cyn taro chwip o ergyd i gornel y rhwyd

Bydd Ariannin yn camu ymlaen i wynebu Yr Almaen yn rownd yr wyth olaf.


chwaraeon
Hanes y Gwpan
 
Y Timau
 


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy