BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
16eg Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan y Byd 2006

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Newidiwyd diwethaf: 25 Ebrill 2006
1954: Y Swistir

Wrth i Fifa ddathlu hanner can mlwyddiant o fodolaeth, penderfynwyd cynnal Cwpan y Byd 1954 yng nghartref ei phencadlys.

Lleoliad Y Swistir Y Swistir
Timau 16
Pencampwyr Gorllewin yr Almaen Gor. Almaen
Prif Sgoriwyr Sándor Kocsis Hwngari
11 gôl

Roedd y bencampwriaeth yn llawn goliau gyda 140 yn cael eu rhwydo mewn 26 gêm ar gyfartaledd o bron i chwe gôl pob gêm.

Llwyddodd Gorllewin Yr Almaen i sicrhau buddugoliaeth syfrdanol yn y rownd derfynol yn erbyn tîm enwog Hwngari oedd yn cynnwys chwaraewyr fel Ferenc Puskas, Sandor Kocsis a Jozsef Bozsik.

Wedi llwyddo i chwalu Gorllewin yr Almaen 8-3 yn y rownd agoriadol, roedd Hwngari, oedd heb golli gêm ers pedair blynedd ac yn bencampwyr y Gemau Olympaidd, yn ffefrynnau clir.

Ond er iddynt fynd 2-0 ar y blaen yn gynnar yn y rownd derfynol, llwyddodd Max Morlock a Helmut Rahn (2) i sicrhau buddugoliaeth annisgwyl i'r Almaenwyr mewn gêm sy'n cael ei hadnabod fel Das Wunder von Bern (Gwyrth Bern).


chwaraeon
Hanes y Gwpan
 
Y Timau
 


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy