BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan y Byd 2006

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Newidiwyd diwethaf: 27 Mehefin 2006
Ronaldo yn y llyfrau hanes

Llwyddodd Ronaldo i dorri ei enw yn y llyfrau hanes wrth rwydo ei 15fed gôl yn hanes y gystadleuaeth â gôl yn erbyn Ghana yn Dortmund brynhawn Mawrth.


Rhwydodd ymosodwr Real Madrid y gôl holl bwysig wedi pedwar munud o'r gêm yn ail rownd Cwpan y Byd a thorri'r record roedd yn rhannu â Gerd Muller wedi ei ddwy gôl yn erbyn Siapan nos Iau.

Gwnaeth Ronaldo ei ymddangosiad cyntaf yng Nghwpan y Byd yn America ym 1994 fel bachgen 17-mlwydd-oed.

Rhwydodd ei gôl gyntaf yng Nghwpan y Byd pedair blynedd yn ddiweddarach yn erbyn Morocco yn Nantes, Ffrainc ac ychwanegodd dair gôl arall wrth i Frasil gyrraedd y rownd derfynol.

Dirgel yn Ffrainc

Roedd disgwyl i Frasil ennill y bencampwriaeth ond cafwyd un o eiliadau mwyaf dirgel Cwpan y Byd pan gyhoeddwyd tîm Brasil ar gyfer y rownd derfynol.

Nid oedd enw Ronaldo ar y rhestr wreiddiol ond fe'i newidiwyd cyn y gic gyntaf i ychwanegu'r ymosodwr i'r tîm.

Mae cryn ddyfalu wedi bod byth er hynny am y rheswm dros ei adael allan o'r XI gwreiddiol, ond roedd yn amlwg i bawb nad oedd ar ei orau wrth i Ffrainc chwalu Brasil 3-0 a chipio'r tlws.

Daeth uchafbwynt gyrfa Ronaldo yn ystod Cwpan y Byd 2002 yn Siapan a De Corea wrth iddo rwydo dwy gôl arbennig yn y rownd derfynol yn erbyn Yr Almaen i sicrhau pumed coron i Frasil.

Roedd hefyd yn sicrhau ei le fel prif sgoriwr y gystadleuaeth ag wyth gôl.


chwaraeon
Hanes y Gwpan
 
Y Timau
 


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy