BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
15fed Gorffennaf 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan y Byd 2006

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Newidiwyd diwethaf: 14 Mehefin 2006
Kovac: 'roedd delio â Ronaldo'n hawdd'

Datgelodd amddiffynnwr canol Croatia, Robert Kovac, ei fod wedi synnu'n llwyr â'r diffyg bygythiad gan ymosodwr Brasil, Ronaldo, yn ystod eu gêm yn Berlin nos Fawrth.

Llwyddodd y deiliaid i ennill 1-0, ond roedd Ronaldo, 29, yn ddistaw iawn trwy gydol y gêm cyn cael ei eilyddio wedi 69 munud.

"Nid wyf yn siwr iawn beth ddigwyddodd iddo," meddai Kovac wrth BBC Chwaraeon. "Nid oedd yn rhedeg ac fe arhosodd o'n blaenau. Mae'n rhaid ei fod wedi blino. Prin iawn oedd yr adegau gyffyrddodd y bêl.

"Roedd ddigon hawdd. Rwyf wedi chwarae yn ei erbyn o'r blaen ac wedi ei chael yn anodd. Nid wyf yn siwr beth sydd wedi digwydd iddo."

Mae Ronaldo wedi cael tymor cythryblus â Real Madrid gyda nifer yn ei feirniadu am fod dros ei bwysau delfrydol.

Ond roedd hyfforddwr Brasil, Carlos Alberto Parreira, a sgoriwr unig gôl y gêm ddydd Mawrth, Kaka, yn sydyn iawn i amddiffyn Ronaldo.

Cyfaddefodd Parreira fod y chwaraewr yn edrych tipyn bach yn araf ond cadarnhaodd byddai'n chwarae eu hail gêm yn erbyn Awstralia ddydd Sul.

"Nid yw Ronaldo wedi chwarae am ddau fis ac felly mae'n naturiol ei fod yn teimlo'n drwm ar ddiwrnod mor boeth, ond rwy'n siwr bydd yn gwella wrth i'r bencampwriaeth fynd yn ei blaen," meddai.

Ac ychwanegodd Kaka: "Mae Ronaldo wedi dweud nad yw wedi cyrraedd ei lefel ffitrwydd delfrydol felly beth am aros tan mae'n gwella a bod y Ronaldo rydym yn adnabod."

chwaraeon
Hanes y Gwpan
 
Y Timau
 


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy