BBC HomeExplore the BBC

SUL
27ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Criced

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 07 Hydref 2009
Hampshire yn arwyddo Jones

Mae cyn chwaraewr Lloegr a Morgannwg, Simon Jones wedi ymuno gyda Swydd Hampshire ar gyfer y tymor nesaf.

Simon Jones

Mae'r Cymro wedi arwyddo cytundeb dair blynedd gyda chwlb y Rose Bowel wedi i Swydd Gaerwrangon ei rhyddhau.

Y gred yw bod cytundeb Jones gyda Hampshire, fydd yn dechrau yn swyddogol ar 1 Tachwedd, yn cynnwys cymalau sy'n seiliedig ar ymddangosiadau

Mae'r bowliwr cyflym 30 oed wedi ei lethu gan anafiadau i'w ben-glin ers iddo ysbrydoli Lloegr i fuddugoliaeth yng nghyfres y Lludw yn erbyn Awstralia yn 2005.

Gadawodd Jones Morgannwg dau dymor yn ôl er mwyn arwyddo i Gaerwrangon, ond cafodd ei ryddhau ar ôl rhagor o lawdriniaeth ym mis Ebrill eleni.

Hawliodd y Cymro 42 o wicedi wrth i Gaerwrangon sicrhau dyrchafiad y tymor diwethaf a chafodd ei enwi yng ngharfan baratoadol Lloegr ar gyfer Tlws y Pencampwyr ar ddechrau'r tymor.

Ond daeth ei dymor i ben yn fuan eleni oherwydd rhagor o broblemau gydag anafiadau, a hynny heb iddo allu chwarae'r un gêm.

Llai na mis yn ôl, dywedodd cadeirydd Morgannwg Paul Russell ei fod yn hyderus y byddai Jones yn dychwelyd i Gaerdydd.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy