|
Dywedodd y cadeirydd Paul Russell y bydd adolygiad trylwyr o dymor siomedig Morgannwg yn cael ei gwblhau yn fuan. Ond mae James, cyn gapten Morgannwg, yn credu bod Maynard wedi gwneud gwaith da gyda'r Sir Gymreig. "Fy marn i yw y dylai Matthew Maynard barhau," meddai James wrth BBC Cymru. "'Dwi ddim yn meddwl y dylai hyn gael ei drafod yn gyhoeddus a tydw i ddim yn gwybod be' mae'r cadeirydd yn ceisio ei gyflawni gyda'r sylwadau hyn. Ychwanegodd James, sydd bellach yn ohebydd criced gyda'r Sunday Telegraph, y bu'n rhaid i Maynard ail-adeiladu'r garfan. "Ni fu'r tim yn un da ers sawl blwyddyn ac fy nghwyn i yw na fu digon o bwyslais ar y tim ers cryn amser," meddai James. "O'n safbwynt i mae'n dda bod y cadeirydd yn dangos diddordeb yn y tîm o'r diwedd. "Pan gydiodd Mathew Maynard yn awenau'r tîm - ac mae wedi bod yno dwy flynedd - roedde nhw'n shambyls. "Bu gwelliant eleni, yn sicr yn y gêm pedwar diwrnod er dyw'r gemau undydd heb fod gystal. "Fy ngobaith ar gyfer y flwyddyn nesaf yw y bydd y tîm undydd yn gwella a bod y tîm pedwar diwrnod yn parhau i ddatblygu."
 |