|
Datgelodd Russell bydd adolygiad trylwyr o dymor siomedig Morgannwg yn cael ei gwblhau cyn hir, a bod safle Maynard yn rhan annatod o hynny. A phan ofynnwyd i'r cadeirydd os oedd dyfodol Maynard wrth y llyw yn ddiogel, dywedodd Russell: "Rydych chi mor dda â'ch set ddiwethaf o ganlyniadau. "Mae'r canlyniadau wedi bod yn hynod siomedig a dyna beth fydd Matthew, a finnau, ac Alan Hamer [y prif weithredwr] yn eu trafod yn fanwl." Un o brif rwystredigaethau Russell, meddai, yw methiant nifer o'r chwaraewyr i wireddu eu potensial. A dywedodd bod gormod o gyfleodd i ennill gemau yn y Bencampwriaeth wedi cael eu gwastraffu ar y diwrnod olaf. "Rydym ni wedi bod yn dîm aflwyddiannus am bum mlynedd a dros y bum mlynedd yna rydym ni wedi ennill, ar gyfartaledd, 17% o'r gemau... nid yw hynny ddigon da," meddai Russell. "Mae'r aelodau a'r cefnogwyr yn anniddig iawn, mae'r sach llythyrau yn llawn bob wythnos." Russell benododd Maynard wrth y llyw dros ddwy flynedd yn ôl, a mynnodd ei fod yn parhau yn ffyddiog yng ngallu'r hyfforddwr i arwain y tîm i lwyddiant. "Matthew oedd fy newis i, a dwi'n credu ei fod o'n hyfforddwr criced talentog iawn," meddai. "Mae ei wybodaeth am y gêm a'i weledigaeth dechnegol wastad yn fy synnu i. "Mi wn ei fod yn rhannu fy rhwystredigaethau i ynglŷn â ffaeleddau amlwg rhai o'r chwaraewyr. "Mae gen i ffydd yn Matthew fel hyfforddwr talentog a dwi'n fodlon - am y tro - i ddibynnu ar ei farn ynglŷn â'r ffordd i ddatblygu'r tîm."
 |