|
Mae'r chwaraewr amryddawn wedi bod yn brwydro'n gyson yn erbyn nifer o anafiadau dros y pedair blynedd diwethaf. Gobaith Flintoff, sy'n 31 mlwydd oed, yw canolbwyntio ar chwarae gemau undydd rhyngwladol o hyn ymlaen. Mae amheuaeth dros ei ffitrwydd ar gyfer yr ail Brawf yn erbyn Awstralia, sy'n cychwyn yn Lord's ddydd Iau, oherwydd anaf i'w ben-glin. Cafodd Flintoff llawdriniaeth ar y ben-glin yna deufis yn ôl ac fe deimlodd boen ar ôl y Prawf agoriadol yng Nghaerdydd. "Mae fy nghorff yn dweud wrthyf fod hi'n amser i roi'r gorau iddi," meddai Flintoff. "Mae'n rhywbeth dwi wedi bod yn meddwl amdano ers tro a dwi'n meddwl bod y broblem ddiweddaraf gyda fy mhen-glin wedi cadarnhau bod yr amser wedi cyrraedd. "Dwi wedi cael pedwar llawdriniaeth ar fy mhigyrnau; cefais lawdriniaeth ar fy mhen-glin dau fis yn ôl a chefais tri phigiad yn fy mhen-glin ddydd Llun er mwyn bod yn iawn ar gyfer y Prawf nesa. "Dwi'n credu bod fy nghorff yn dweud wrthyf fy mod i methu delio gyda gofynion gemau Prawf." Mae Flintoff wedi chwarae 76 gêm Brawf i'w wlad mewn gyrfa sydd wedi parau 11 mlynedd. Heb os, daeth uchafbwynt ei yrfa yng nghyfres y Lludw yn 2005 pan chwaraeodd ran flaenllaw yn y fuddugoliaeth gyda'r bat a'r bêl.
 |