|
Mae Flintoff wedi cael scan ar ôl dioddef poen yn ei ben-glin yn dilyn y Prawf cyntaf yn Stadiwm Swalec. Cafodd chwaraewr amryddawn Caerhirfryn lawdriniaeth i'r un ben-glin fis diwethaf. Gydag amheuaeth am ffitrwydd Flintoff mae Lloegr wedi cynnwys Steve Harmison yn y garfan ar gyfer yr ail Brawf yn Lord's. Carfan Lloegr: AJ Strauss (capten), AN Cook, RS Bopara, KP Pietersen, PD Collingwood, MJ Prior, A Flintoff, SCJ Broad, GP Swann, JM Anderson, MS Panesar, IR Bell, G Onions, SJ Harmison.
 |