BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
1af Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Criced

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 13 Gorffennaf 2009
Russell yn ŵr balch wedi'r Prawf

Dywed cadeirydd Morgannwg, Paul Russell bod holl waith caled y Sir wedi sicrhau Prawf cyntaf hynod lwyddiannus yng Nghyfres y Lludw yng Nghaerdydd.

Paul Russell

Llwyddodd Lloegr i achub gêm gyfartal yn erbyn Awstralia ar y diwrnod olaf yn Stadiwm Swalec, wrth i gartref Morgannwg lwyfannu gêm Brawf am y tro cyntaf erioed.

"Bues i'n gwylio gyda balchder, hapusrwydd a boddhad," meddai Russell wedi'r diwrnod olaf yng Ngerddi Sophia.

"Mae gennyf dîm gwych o fy nghwmpas fu'n gweithio'n galed iawn i sicrhau'r achlysur hon ac fe hoffwn dalu teyrnged i'r tîm hwnnw.

"Wnes i erioed amau na fyddwn yn gallu gwneud hyn.

"Roedde ni'n gwybod maint y dasg oedd o'n blaenau ac fe wnaethom ni fynd i'r afael mewn manylder a gyda'r arbenigedd yr oedd hi'n haeddu.

"Ond 'dwi'n falch iawn bod y byd wedi gweld be mae Morgannwg, Caerdydd a Chymru yn gallu cyflawni.

"Mae pawb yr wyf wedi siarad hefo, heb eithriad, wedi dweud wrthyf gymaint y mae nhw wedi mwynhau'r pum niwrnod diwethaf.

"Nid yn unig y criced ond y profiad o fod yn y stadiwm ac yng Nghaerdydd.

"Mae hynny yn gwneud i mi fod yn falch iawn nid yn unig fel cadeirydd Morgannwg ond hefyd fel Cymro."


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy