|
Mewn diweddglo dramatig a llawn tensiwn ar y diwrnod olaf, llwyddodd y tîm cartref i fatio'r drwy'r diwrnod yn eu hail fatiad. James Anderson a Monty Panesar oedd yr arwyr wrth iddyn nhw aros ar y llain am y tri chwarter awr olaf er gwaethaf pwysau trwm gan fowlwyr Awstralia. Ond batiad Paul Collingwood oedd yn allweddol i gadw Lloegr yn y gêm wrth iddo aros i mewn am bron i chwe awr wrth sgorio 74 rhediad ar ôl wynebu 245 o beli. Roedd buddugoliaeth i Awstralia yn edrych yn anochel wrth i Loegr golli tair wiced yn y 90 munud cyntaf o'r bore wrth ailgychwyn eu batiad ar 20-2. Ond roedd Collingwood yn graig i Loegr drwy'r prynhawn gydag Andrew Flintoff (26) a Graeme Swann (31) yn gynnig cefnogaeth amhrisiadwy am gyfnodau hir. Unwaith collodd Collingwood ei wiced, roedd yn rhaid i Anderson a Panesar aros ar y llain am dri chwarter awr arall i achub y gêm. A llwyddodd y ddau i wneud hynny drwy fatio'n amddiffynnol a chadarn, gan fynd a sgôr Lloegr i 252-9 ar ddiwedd y chwarae am ugain mynd i saith. Roedd hi'n ddiweddglo haeddiannol i bum niwrnod hynod lwyddiannus a hanesyddol i Forgannwg wrth iddyn nhw lwyfannu gêm Brawf am y tro cyntaf. Bydd yr ail Brawf yn cychwyn yn Lord's ddydd Iau.
 |