|
Bydd Fletcher, sydd yn byw yn Cape Town, yn dechrau yn ei swydd newydd pan fydd De Affrica yn wynebu Bangladesh yn y prawf cyntaf ddydd Mercher yn Bloemfontein. Fe fydd yn chwarae rhan allweddol yn eu taith i Awstralia, eu paratoadau ar gyfer Tlws y Pencampwyr ac ymweliad Lloegr y flwyddyn nesaf. Fletcher oedd yr hyfforddwr pan gipiodd Lloegr Gyfres y Ludw yn 2005 cyn iddo adael ei swydd yn 2007. Cyn gapten Zimbabwe oedd hyfforddwr Morgannwg enillodd Bencampwriaeth y Siroedd ym 1997.
 |