BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Criced

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Newidiwyd diwethaf: 22 Awst 2006
Amheuaeth dros gemau Pacistan

Mae amheuaeth os bydd chwaraewyr Pacistan yn chwarae eu gêm yn erbyn Middlesex ddydd Iau - y diwrnod cyn i'w capten, Inzamam-ul-Haq, wynebu gwrandawiad disgyblu.

Ac mae pryder bydd y gyfres un dydd â Lloegr yn cael ei ohirio os yw Inzamam yn cael ei wahardd.

Mae'r ail gêm yn y gyfres i fod i'w chynnal ar Erddi Soffia, Caerdydd.

"Rwyf wedi siarad ag Inzamam a rhai o'r chwaraewyr sydd yn credu na ddylwn chwarae tan fo'r gwrandawiad wedi bod," meddai'r rheolwr, Zaheer Abbas.

Dywedodd llefarydd wrth y BBC fod Middlesex yn paratoi'n arferol ar gyfer y gêm.

Mae Inzamam yn wynebu cael ei wahardd am wyth gêm un dydd a phedwar gêm Brawf os yw'n ei gael yn euog o ddwyn anfri ar y gêm ac ymyrryd â'r bêl.

Rhybuddiodd hyfforddwr Pacistan, Bob Woolmer, ddydd Llun: "Os yw Inzamam yn cael ei wahardd, ac yn cael gwaharddiad trwm, yna ni allaf sicrhau bydd fy nhîm yn chwarae."

"Byddem yn hoffi hyn i gyd i ddiflannu ac nid ydym eisiau beirniadu'r dyfarnu, mae'n groes i ysbryd y gêm," meddai wrth raglen Newsnight.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy