BBC HomeExplore the BBC

IAU
10fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bocsio

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 13 Tachwedd 2009
Brwydr blwyddyn newydd i Cleverly

Mae'n debyg y bydd gornest nesaf Nathan Cleverly yn cael ei chynnal ar 27 Ionawr yn yr Eidal.

Nathan Cleverly

Antonio Brancalion fydd ei wrthwynebydd wrth i'r ddau ymladd am goron pwysau is-drwm Ewrop.

Methodd hyrwyddwyr Cleverly ac ennill yr hawl i lwyfannu'r ornest gan fod hyrwyddwyr Brancalion wedi cynnig mwy o arian i'w threfnu.

Mae'n debyg mai yn nhref enedigol Brancalion fydd yr ornest, sef Rovigo.

"Fe awn ni i unrhyw le ac unrhyw bryd, mae Nathan yn barod," meddai tad a hyfforddwr Cleverly, Vince.

Cleverly, sy'n 22 mlwydd oed, yw bencampwr Prydain a'r Gymanwlad.

Mae'r gŵr o Gefn Fforest yn gobeithio bod y chweched Gymro yn unig i ddal coronau Prydain, y Gymanwlad ac Ewrop ar yr un pryd.

Jim Driscoll, Eddie Thomas, Dai Dower, Jonny Owen a Colin Jones yw'r unig rai i lwyddo i wneud hynny hyd yn hyn.

Ni lwyddodd yr un o'r rheini i fynd ymlaen i ennill coron byd, ond dyna yw nod Cleverly y flwyddyn nesaf ar ôl iddo gwblhau ei radd mewn mathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae'r Cymro wedi ennill bob un o'u 18 gornest, tra mai ennill 32, colli saith a dwy ornest gyfartal yw record Brancalion.

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy