|
Yn ymuno gyda'r bocsiwr o Drecelyn bydd Cymro arall, sef Jason Cook. Mae Cook, o Faesteg, yn gyn-bencampwr Ewropeaidd. Ted Bami, David Barnes, Colin Lynes, Barry Morrison, Young Mutley a Lee Purdy yw'r lleill fydd yn cymryd rhan yn Olympia yn Llundain ar 4 Rhagfyr. Y wobr i'r enillydd fydd £32,000. Bydd pob gornest yn para tair rownd, tri munud o hyd. Bydd y gystadleuaeth yn cychwyn gyda phedair gornest gogynderfynol, gyda rownd gynderfynol a rownd derfynol i ddilyn. Collodd Rees ei goron WBA wrth ei amddiffyn am y tro cyntaf yn erbyn Andriy Kotelnik ym mis Mawrth 2008. Dychwelodd i'r sgwâr ym mis Awst eleni, gan guro Johnny Greaves mewn pedair rownd. Enillodd Audley Harrison y gystadleuaeth Prizefighter i focsiwr pwysau trwm ym mis Hydref.
 |