|
Mae Arthur, enillodd fedal aur yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2002, heb golli ers iddo ddychwelyd i'r sgwâr focsio'r llynedd. "Mae hwn yn gyfle gwych a 'dwi methu disgwyl," meddai'r gŵr o Gwmbrân. "Mae Lindsay yn ymladdwr da gydag ergyd gref ac fe fydd hi'n dipyn o ornest." Mae Lindsay, sydd yn hanu o Belffast, wedi ennill ei 14 gornest broffesiynol ddiwethaf ac fe hawliodd y teitl pan drechodd Paul Appleby ym mis Ebrill. John Simpson oedd gwrthwynebydd gwreiddiol Lindsay ond nid yw ar gael gan gyflwyno cyfle i Arthur. Nid oes dyddiad na lleoliad ar gyfer yr ornest wedi ei gadarnhau hyd yn hyn ond mae Arthur yn awyddus i'w gweld yn cael ei chynnal yng Nghymru.
 |