|
Bydd Todd, sy'n 21 mlwydd oed ac yn hanu o Abertawe, yn herio Mohammed Kayongo o Affrica yn Minnesota yn yr Unol Daleithiau ar ddydd Gwener, 20 Tachwedd. Dim ond pedair gwaith mae Todd wedi ymladd fel bocsiwr proffesiynol, tra bod Kayongo wedi ymladd 17 o weithiau, gan ennill 14 o'i ornestau. Penderfynodd Todd i adael campfa Enzo Calzaghe yn ddiweddar er mwyn symud i America i ddysgu ei grefft. Collodd ei ornest gyntaf o'i yrfa fis diwethaf yn Wisconsin, ond dywedodd ei fod wrth ei fodd i gael y cyfle i ymladd am deitl byd mor fuan yn ei yrfa. "Mae hyn yn gyfle anferth i mi," meddai Todd. "Nid pawb fyddai'n cymryd risg fel yma mor fuan yn eu gyrfa ond ni fyddwn wedi derbyn yr ornest oni bai fy mod yn hollol sicr o ennill." Nid yw'r IBA yn cael ei ystyried ymysg y pedwar prif gorff sy'n gwobrwyo teitlau byd. Ond mae rhai o enwau mwyaf y gamp wedi bod yn bencampwyr IBA cyn symud ymlaen i bethau gwell, er enghraifft Oscar de la Hoya a Roy Jones Jr. Dywedodd hyfforddwr Todd, John Tandy, ei fod yn disgwyl i'r Cymro ifanc fynd ymlaen i efelychu rhai o'r rheini. "Mae Toddy am greu dipyn o sioc," meddai Tandy.
 |