|
Y Cymro 22 oed oedd y ffefryn yn erbyn Fry yn y York Hall yn Llundain nos Wener. Ond fe brofodd Fry, enillodd aur yng ngemau'r Gymanwlad ym 1998, yn wrthwynebydd ystyfnig. Ond wedi cyfres o ergydion gan Cleverly welodd Fry yn erbyn y rhaffau fe gamodd y dyfarnwr i'r adwy yn yr wythfed rownd. Er nad oedd Cleverly wedi llwyr reoli, fe oedd yn arwain ar bwyntiau pan ddaethpwyd â'r ornest i ben. Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Cleverly wedi ymestyn ei record heb golli i deunaw gornest.
 |