BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SADWRN
19eg Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Clwb Pel-Droed Porthmadog

BBC Homepage


HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon



Porthmadog
Y Garfan
Y Swyddogion
Y Ffans
Hanes y Clwb
Adroddiadau
Uchafbwyntiau

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Porthmadog | Chwaraeon Porthmadog | Chwaraeon
Y dyddiau cynnar
1884-1945
Ffurfiwyd clwb pêl-droed ym Mhorthmadog ym 1884, gyda'r clwb yn chwarae yng Nghwpan Cymru am y tro cyntaf ym 1885.

Llwyddodd Portmadoc (sic) i drechu Carnarvon (sic) 2-1 yn y rownd gyntaf cyn colli yn erbyn Bangor 4-0 yn yr ail rownd.

Ymuno â Chynghrair yr Arfordir

Ym 1902 cafodd clwb Portmadoc eu hethol yn aelodau o Gynghrair Arfordir Gogledd Cymru ynghyd â Conway (sic) ac Amaturiaid Llandudno.

Cafwyd tymor cyntaf anhygoel yn y gynghrair a llwyddodd Port i drechu cewri'r gogledd, Bangor, 4-0 ym Mhorthmadog, ac er i Fangor ennill eu gêm cartref o'r un sgôr, roedd Port pwynt ar y blaen i Fangor erbyn mis Mawrth wedi chwarae 15 gêm.

Cipiwyd y bencampwriaeth i Port â buddugoliaeth 5-0 dros Fae Colwyn.

Pum mlynedd yn ddiweddarach bu rhaid i Portmadoc dynnu allan o'r gynghrair oherwydd diffyg cefnogaeth a phrinder chwaraewyr, a bu rhaid disgwyl hyd at ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf nes bo tîm o Port yn chwarae yng Nghynghrair Arfordir y Gogledd unwaith eto.

Ail-ymuno â'r gynghrair

Ym 1918 cafodd cais Clwb Pêl-droed Portmadoc Comrades of the Great War i ymuno â'r gynghrair ei wrthod, ond fis yn ddiweddarach mewn cyfarfod pellach cafodd Portmadoc eu derbyn i Adran Gyntaf y gynghrair.

Cipio'r goron wedi 35 mlynedd

Llwyddodd Port i sicrhau'r dwbl ym 1938 wrth ennill Cynghrair y Welsh League (North) a Chwpan Amatur yr Arfordir, gyda DG Griffiths yn rhwydo 63 gôl yn ystod y tymor gan gynnwys un gôl yn rownd derfynol y gwpan yn erbyn Castle Fire Bricks.




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy