Viv Williams - y rheolwr
28 Hydref, 2003
O feddwl ein bod wei colli saith gêm yn olynol, mae'r ysbryd yn reit da ymysg yr hogi.
Roedd pawb yn gwybod bod pethau'n mynd i fod yn anodd yn y gynghrair yma a roedd pawb yn gwybod bod cyfnod caled fel hyn yn mynd i ddod rhyw bryd.
Ond wedi dweud hynny, mae hi'n dal yn gnoc i'r hyder pan mae o'n digwydd.
Mae 'na ddiffyg profiad ar ran y tîm a'r rheolwyr ar y lefel yma, yn y Cymru Alliance roedd y tîm yn gallu chwarae'n sâl ac ennill.
Roedd y gêm yn erbyn Hwlffordd yn esiampl gwych gan i ni chwarae yn union i'r patrwm roeddwn am weld yn ystod yr hanner cyntaf, ond wedi un camgymeriad llwyddodd Hwlffordd i gael un cyfle a sgorio.
Oherwydd hynny, mae'r chwaraewyr ofn gwneud camgymeriadau, ond 'dwi eisiau gweld yr hogia yn chwarae eu gêm naturiol a chwarae'r bêl ar hyd y llawr, a pheidio bod ofn gwneud ambell i gamgymeriad gan mai dyna sut bydd y chwaraewyr yn dysgu.
Mae'n rhaid cofio bod gennym ni dîm ifanc a phan ddaeth y rhan fwyaf at Port, roeddent yn ddibrofiad yn y Cymru Alliance ond fe ddaeth y tîm yn uned gref ac mae'n rhaid i ni wneud yr un peth yn yr Uwchgynghrair.
Tydw i ddim yn poeni'n ormodol am y sefyllfa ar hyn o bryd. Byddai un neu ddwy fuddugoliaeth yn rhoi'r clwb yn ôl yn ei chanol hi.
Nes i ddim mynd dros ben llestri wedi'r buddugoliaethau cynnar, felly fydda'i ddim yn mynd dros ben llestri am y colledion diweddar.