bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

SUL
29ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
[an error occurred while processing this directive]

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
[an error occurred while processing this directive]
» [an error occurred while processing this directive]
Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Dodd yn sicrhau buddugoliaeth

Stephen Dodd

28 Tachwedd 2004

Llwyddodd y Cymro, Stephen Dodd, i sicrhau ei fuddugoliaeth gyntaf ar y Gylchdaith Ewropeaidd wrth gipio Pencampwriaeth Agored China yn Shanghai o dair ergyd.

Gwnaeth Dodd, orfennodd 12 ergyd yn well na'r safon, ddigon i gadw ar y blaen i Thomas Bjorn o Ddenmarc yn y rownd olaf.

Cafodd y chwaraewr 38-mlwydd-oed fraw ar y 17ed twll wedi iddo gymryd tair ergyd i dyllu, ond methodd Bjorn â chymryd mantais wrth iddo wneud smonach o'r 18ed twll.

Rhannodd Chawalit Plaphol, Thaworn Wiratchant a Jason Dawes y trydydd safle.

"Yr unig beth oeddwn eisiau wneud oedd mynd allan a gwneud fy ngorau glas, a dyna beth ddigwyddodd," meddai Dodd.

"Rwy'n ffodus mai fy nhro i oedd i chwarae'n dda."

Dyma fuddugoliaeth gyntaf Dodd mewn 166 twrnament ers troi'n broffesiynol ym 1989.

"Roeddwn yn credu byddwn yn ennill mewn amser," meddai.

"Yn amlwg mae wedi cymryd hirach na'r oeddwn yn ei ddisgwyl.

"Nid oeddwn erioed yn meddwl nad oeddwn yn ddigon da. Petawn yn meddwl hynny byddwn wedi wedi rhoi'r ffidil yn y to amser maith yn ôl."

Dywedodd Bjorn, orffennodd yn yr ail safle am yr ail bencampwriaeth yn olynol, ei fod yn hapus i frwydro unwaith eto.

"Mae rhywun eisiau ennill pencampwriaethau golff, ond pan mae rhwyun yn erbyn gwr sydd yn chwarae cystal â Stephen, mae'n rhaid i rhywun ddweud da iawn."





[an error occurred while processing this directive]


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy