bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

SUL
29ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
[an error occurred while processing this directive]

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
[an error occurred while processing this directive]
» [an error occurred while processing this directive]
Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Siwmper werdd i McEwen

Robbie McEwen

25 Gorffennaf 2004

Llwyddodd Robbie McEwen i anghofio'r siom o fethu allan ar fuddugoliaeth ar y cymal olaf ym Mharis gan sicrhau'r siwmper werdd yn y Tour de France.

Gwibiodd y gwr o Awstralia heibio Thor Hushovd er mwyn ennill y gystadleuaeth pwyntiau ar y Champs Elysees.

Nid oedd Richard Virenque wedi ceisio ennill yr unig gystadleuaeth dringo ar y cymal olaf gan ei fod eisoes wedi sicrhau crys smotiog Brenin y Mynyddoedd am y seithfed tro - record yn y Tour.

Vladimir Karpets oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth y siwmper wen i feicwyr ifanc y Tour.

Roedd y gwr o Rwsia wedi brwydro'n galed i drechu Sandy Casar, oedd yn ail, a'r Ffrancwr, Thomas Voeckler, oedd yn arwr lleol wedi cadw'r siwmper felyn am dros wythnos yn gynharach yn y Tour.

Mynodd McEwen mai'r gystadleuaeth pwyntiau oedd yr unig beth ar ei feddwl ddydd Sul - ac nid y ras am y llinell derfyn welodd Tom Boonen yn ennill y cymal.

"Gwyrdd yw fy hoff liw," meddai. "Nid oeddwn yn rasio i ennill heddiw gan fy mod yn canolbwyntio ar ennill y siwmper werdd.

"Roedd yn hunllef ar y Champs Elysees llynedd, ond roedd yn berffaith eleni."





[an error occurred while processing this directive]


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy