Hendry yn trechu O'Sullivan
Chwaraeodd Stephen Hendry yn rhagorol o dda i ddod yn ôl a threchu Ronnie OSullivan o 9-6 yn rownd terfynol Pencampwriaeth Agored Prydain yn Brighton.
Roedd yr Albanwr 5-3 ar ei hôl hi ar yr egwyl wrth i'r ddau chwaraewr chwarae i'r safon uchaf.
Ond fe wnaeth rediadau o 61, 50 a 135 i fynd ar y blaen.
A phan dorrodd O'Sullivan i lawr ar 56 yn y 12fed ffrâm aeth Hendry ymlaen i wneud rediad o 78.
Fe aeth bellach ar y blaen yn y nesaf gyda rhediad o 95 i wneud y sgôr yn 8-5.Daeth O'Sullivan yn ôl yn y ffrâm nesaf ond fe wnaeth Hendry rediadau o 42 a 30 i gipio'r ornest.
"Chwaraeais gystal â dwi wedi'i wneud ers amser hir," meddai Hendry.
"Roeddwn i'n gwybod y byddai'n rhaid i mi chwarae'n dda oherwydd mae Ronnie wedi fy nghuro mewn rowndiau terfynol yn y gorffennol.
"Chwaraeais fy snwcer gorau am 95% o'r gêm."
Roedd pryder wedi bod ynglyn â safon chwarae Hendry y tymor yma oherwydd iddo golli ei giw - yr un oedd o wedi ei ddefnyddio i ennill saith pencampwriaeth byd.
Ond efo'r fuddugoliaeth yma mae'r Albanwr wedi profi ei fod o gystal ag erioed.
"Mae hyn yn profi allai chwarae'n dda efo'r ciw newydd," meddai Hendry.
"Dwi wedi chwarae mewn dwy bencampwriaeth efo'r ciw newydd ac wedi ennill un felly mae hynny'n profi does dim byd o'i le."
Roedd O'Sullivan ddim yn rhy siomedig ar ôl colli.
"Roedd Stephen yn wych yn yr ail gyfnod a doedd dim yr oeddwn i'n medru ei wneud," meddai.
"Yn naturiol dwi'n teimlo'n negyddol ond dwi'n ceisio canolbwyntio ar yr elfennau addawol.
"Mae'n anodd pan mae rhywun yn eich brifo chi cymaint ond mi fyddai'n teimlo'n well mewn rhyw ddeuddydd."
Fe greodd Hendry ac O'Sullivan record yn ystod cyfnod cyntaf y rownd terfynol wrth iddyn nhw greu pum rhediad o gant neu drosodd mewn pum ffrâm yn olynol.
Sgoriodd Hendry 135 a 121 tra wnaeth O'Sullivan 109, 106 a 100.