Hendry yn curo Stevens
Mae Stephen Hendry wedi curo Matthew Stevens o 6-3 i gyrraedd rownd terfynol Pencampwriaeth Agored Prydain yn Brighton.
Mi fydd yr Albanwr nawr yn wynebu Ronnie O'Sullivan yn y rownd derfynol ar ôl iddo fo drechu Stephen Lee o 6-2.
Dechreuodd Hendry'r gêm yn erbyn Stevens yn dda gan greu rhediadau o 63, 93 a 80 er mwyn gwneud y sgôr yn 4-1.
Ond daeth y Cymro yn ôl i wneud gêm ohoni, 4-3.
Fe lwyddodd Hendry i greu rhediad o 65 yn y ffrâm nesaf er mwyn dal mantais o 5-3 cyn gorffen y gêm yn y ffrâm nesaf gyda rhediad o 62.Nid ydi Hendry ac O'Sullivan wedi bod yn ffrindiau ers iddyn nhw ffraeo yn ystod Pencampwriaeth y Byd yn Sheffield yn 2002.
"Pob tro rydyn ni'n chwarae mae yna rhyw elfen arall yn bresennol," meddai Hendry.
"Ond rydyn ni'n chwarae mewn gêm derfynol enfawr a bydd y ddau ohono ni'n ceisio'n gorau i ennill y bencampwriaeth.
"Mae geni barch mawr tuag at Ronnie fel chwaraewr snwcer - mae ganddo ddawn aruthrol.
"Mae pawb yn gwybod nad ydyn ni'n ffrindiau mawr ond mi fydda i'n paratoi ar gyfer y gêm yn yr un modd ag arfer."