|
Higgins yn trechu Parrott
Mae'r Albanwr John Higgins wedi ennill ei le yn rownd terfynol Cwpan LG ar ôl curo John Parrott o 6-2 brynhawn Sadwrn.
Fe ddechreuodd Higgins yn ardderchog gan ennill y pedair ffrâm gyntaf gan wneud rediadau o 61, 58, 81 a 52.
Mae Higgins, sydd yn bedwerydd ymysg y detholion, yn ceisio ennill pencampwriaeth safleoedd am y tro cyntaf mewn dwy flynedd.
Yr wythnos yma mae Parrott wedi synnu nifer o bobl wrth iddo gyrraedd rownd cyn derfynol pencampwriaeth am y tro cyntaf ers 2001.
Dywedodd Higgins: "Dwi'n teimlo can gwaith gwell y nawr i gymharu a'r ddwy flynedd diwethaf."Dwi'n taro'r bel yn dda a'r flwyddyn yma dwi'n meddwl fy mod geni rywbeth i'w brofi. "Dim ots pwy dwi'n chwarae yn y rownd derfynol dwi'n teimlo fy mod geni gyfle arbennig." Mi fydd Higgins yn wynebu unai'r Cymro Mark Williams neu Ken Doherty, o'r Iwerddon.

|