bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

SADWRN
28ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
[an error occurred while processing this directive]

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
[an error occurred while processing this directive]
» [an error occurred while processing this directive]
Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

O'Sullivan yn curo Higgins

Ronnie O'Sullivan Fe wnaeth Ronnie O'Sullivan rediad o 128 yn y ffrâm olaf i guro John Higgins o 10-9 yn rownd derfynol y Citywest Irish Masters.

Roedd Higgins yn benderfynol o aros efo OSullivan wrth iddo ddod yn ôl ato drwy gydol y gêm.

Ni oedd yr Albanwr ar y blaen o gwbwl ac yn y diwedd OSullivan oedd y cryfa wrth iddo ennill ei ail gystadleuaeth safleoedd yn olynol ar ôl iddo gipio'r European Open gan guro Stephen Hendry yn gynharach yn y mis.

Dechreuodd y gwr o Lundain yn wych gan fynd 2-0 ar y blaen; ond daeth Higgins yn ôl wrth suddo o'r felyn i'r binc i ennill y drydedd a rhoi rhediad o 86 efo'i gilydd i unioni'r sgôr.

Ond daliodd OSullivan i bwyso wrth ennill y tair ffrâm nesaf gyda rhediadau o 40, 52 a 68 i wneud y sgôr yn 5-2.

Daeth Higgins yn ôl gan ennill y ddwy nesaf - yn gwneud rhediad o 131 yn y nawfed.

Cipiodd yr Albanwr y ffrâm gyntaf o chwarae'r nos hefyd gan wneud rhediad o 51.

Tarodd O'Sullivan yn ôl yn syth efo 68 ond fe wnaeth Higgins 92 a 73 i unioni eto - 7-7.

Fe aeth O'Sullivan ar y blaen ddwy waith wedyn - ar 8-7 a 9-8 cyn i Higgins wneud 123 i fynd a'r gêm i'r ffrâm olaf.

Ond cadwodd y Sais ei orau tan y ffrâm olaf gan wneud cant i hawlio'r fuddugoliaeth.

Nid ydi Higgins wedi ennill pencampwriaeth ers blwyddyn ond roedd yna ddigon o arwyddion ei fod yn nesau at ei orau.

"Dwi'n siomedig fy mod wedi colli ond eto wrth fy modd fy mod wedi chwarae mor dda," meddai Higgins.

"Er fy mod wedi colli dwi'n ffyddiog fod geni siawns da o ennill un neu efallai dwy o'r gystadleuthau sydd yn weddill."



[an error occurred while processing this directive]


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy