Davis yn difetha diwrnod Day
Llwyddodd Steve Davis i sicrhau ei le ym Mhencampwriaeth Embassy'r Byd yn y Crucible am y tro cyntaf mewn tair mlynedd â buddugoliaeth dros y Cymro Ryan Day.
Bu rhaid i Davis, sydd wedi ennill y bencampwriaeth chwe gwaith yn y gorffennol, frwydro'n galed cyn trechu Day 10-9 yn Torquay dydd Mawrth.
"Mae'n wych i fod yn ôl," meddai. "Mae'n golygu lot i mi gael chwarae yn y Crucible a rwyf wrth fy modd bod yno."
Roedd Davis, 45-mlwydd-oed ar y blaen 8-5 wedi claddu dau rediad dros 100 yng Ngwesty'r Palace, Torquay nos Fawrth.
Ond ymatebodd Day, sydd yn 140 ar restr detholion y byd a 23 mlynedd yn 'fengach na'i wrthwynebydd, ddod yn gyfartal 8-8.
Cipiodd Davis y ffrâm nesaf a roedd yn edrych yn siwr o agor bwlch o ddwy ffrâm gyda Day angen snwcer ar y pinc.
Ond llwyddodd Day i greu'r snwcer a bu rhaid i Davis suddo du ychwanegol er mwyn ennill a mynd trwodd.
"Roedd yn dyn iawn erbyn y diwedd," cyfaddefodd Davis.
"Roedd snwcer Ryan ar y pinc yn wych ac yna llwyddodd â phot hir wych."
"Fe ddylwn fod wedi bod ar y llawr ond roeddwn yn hyderus o allu suddo'r ddu ychwanegol a roedd yn deimlad braf pan aeth i fewn i'r boced. Rwy'n falch nad oeddwn yn gorfod chwarae ffrâm arall."
Mae buddugoliaeth Davis yn sicrhau ei le yn 16 uchaf y byd ar gyfer diwedd y tymor.