bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

LLUN
21ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
[an error occurred while processing this directive]

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
[an error occurred while processing this directive]
» [an error occurred while processing this directive]
Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

White allan o Bencampwriaeth Ewrop

Jimmy White Mae Jimmy White allan o Bencampwriaeth Ewrop ar ôl colli 5-3 yn erbyn Gerard Greene - y rhif 63 ymysg y detholion.

Y Whirlwind yw'r unig chwaraewr o fewn y 16 uchaf sydd heb ennill gêm mewn cystadleuaeth safleoedd y tymor yma.

Mae'r gwr o Lundain yn siwr o fod yn gofyn i'w hun pa bryd mae ei lwc am newid.

Chafodd gryn dipyn o anlwc yn erbyn Greene pan oedd ganddo gyfle i fynd a'r gêm i'r ffrâm olaf.

Roedd White ar ei hôl i o 4-3 a 67-0 ond roedd llygedyn o obaith iddo orfodi'r bêl ddu i'w ail-sbotio.

Yn lle hynny fe suddodd y bêl lâs olaf ond i'r bêl wyn fynd i'r boced ganol.

Er mai dim ond un snwcer oedd o angen penderfynodd ysgwyd llaw Greene yn lle chwarae ymlaen.

Ar ôl y gêm dywedodd White, sy bellach yn rif 10 ymysg y detholion: "Chwaraeais yn wael iawn drwy'r gêm.

"Llwyddais wneud dau rediad o 90 yn y tri ffram cyntaf ond heblaw am hynny fyddai'r mab wedi fy nghuro heddiw.

"Dwi'n siomedig ofnadwy oherwydd dwi'n gwneud rhediadau o 147 tra'n ymarfer."

Mi fydd Greene, a gyrhaeddodd yr wyth olaf o Gwpan LG ym mis Hydref, nawr yn wynebu John Higgins am le yn yr wyth olaf.

Hefyd yn Torquay, mae'r Cymro Matthew Stevens wedi sicrhau buddugoliaeth o 5-1 dros Ian McCulloch a mi fydd o'n chwarae Mark King nesaf.

Fe enillodd King yn erbyn David Roe o 5-3, i sicrhau ei fuddugoliaeth cyntaf o'r tymor.

Mae Ronnie OSullivan wedi symud ymlaen i'r 16 olaf wrth guro Michael Holt o 5-3.

Mi fydd o nawr yn chwarae unai Joe Perry neu Dave Finbow.

Cafodd Ken Doherty y gorau o David Gray o 5-1 a mi fydd o'n wynebu Paul Hunter yn ei gêm nesaf.

Roedd Hunter yn rhy dda i Robin Hull, o'r Ffindir, er iddo roi rhediad o gant efo'i gilydd. 5-2 oedd y sgôr.

Fe wnaeth John Higgins rhediad uchaf y bencampwriaeth hyd yn hyn - 112 - wrth ennill 5-1 yn erbyn Barry Pinches.



[an error occurred while processing this directive]


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy