|
Chwaraewyr ar fai - Jenkins
17 Awst 2005
Mae Cyfarwyddwr Rygbi'r Scarlets, Gareth Jenkins, wedi beio'r chwaraewyr am golled y Llewod yn y gyfres brawf yn Seland Newydd.
Roedd Jenkins yn un o gynorthwywyr hyfforddi Syr Clive Woodward ar y daith, gyda'r Llewod yn colli'r gyfres 3-0.
"Bu bron i'w weledigaeth a'i gynllun weithio. Yr hyn nad oedd gennym oedd y safon oedd ei angen," meddai Jenkins.
"Mae Woodward yn cael ei farnu fel hyfforddwr a fethodd. Efallai nad oedd safon y chwaraewyr ddim ar gael yn y Chwe Gwlad.
"Yr oeddwn yn gyfforddus gyda'r dewsiadau ar y daith - ond ni wnaeth sawl chwaraewr berfformio fel yr oeddym wedi disgwyl."

|