bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Hore i adael ei rôl â Chymru

01 Gorffennaf 2005

Bydd hyfforddwr ffitrwydd Cymru, Andrew Hore, yn dychwelyd i Seland Newydd yn yr hydref er mwyn derbyn swydd ag Undeb Rygbi'r wlad.

Mae Hore, 33, yn cael ei gydnabod fel y person sydd yn gyfrifol am godi lefelau ffitrwydd chwaraewyr Cymru yn y tair blynedd diwethaf.

Ond mae wedi cae ei demtio yn ôl i'w famwlad â chynnig o weithio â'r 14 academi rygbi yn Seland Newydd.

"Mae wedi bod yn benderfyniad anodd. Gyda theulu newydd, mae fy ngwraig a minnau wedi penderfynu fod yr amser yn iawn i ni symud," meddai Hore.

Dywedodd rheolwr cyffredinol Undeb Rygbi Cymru, Steve Lewis, eu bod eisoes wedi cychwyn chwilio am olynydd i Hore.

"Rydym wedi bod yn chwilio trwy'r byd rygbi am olynydd teilwng i Andrew a rydym ar fin cyhoeddi pwy fydd yn cymryd y swydd a rydym yn credu bydd yn cydweithio'n dda â'r tîm rheoli," medai Lewis.

Bydd Hore yn parhau â Chymru am rai misoedd tan fod ei olynydd yn barod i gymryd y swydd.





puff_llewod-200.jpg


Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy