bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Chwalfa llwyr i Gymru

Carlos Spencer Llwyddodd Seland Newydd i anghofio colled wythnos diwethaf yn erbyn Lloegr gan sgorio wyth cais wrth chwalu Cymru 55-3.

Llwyddodd y canolwr Daniel Carter i sgorio 20 pwynt ar ei ymddangosiad cyntaf i'r Crysau Duon wrth i Seland Newydd greu record sgorio newydd yn erbyn Cymru.

Methodd Cymru, fydd yn wynebu Seland Newydd yng Nghwpan y Byd yn yr hydref, sicrhau unrhyw feddiant a daeth eu hunig sgôr yn y gêm o gic cosb cynnar Stephen Jones.

Dyma oedd nawfed colled Cymru o'r bron - canlyniad fydd yn siwr o roi pwysau ar y hyfforddwr, Steve Hansen.

Yn groes i'r disgwyl, Cymru sgoriodd gyntaf wrth i Colin Charvis ennill y bêl yng nghanol cae cyn bwydo Mark Jones.

Carlamodd Jones i lawr yr asgell chwith a chyda'r Crysau Duon o dan bwysau lladdwyd y bêl a trosodd Jones gic gosb hawdd.

Dechreuodd Seland Newydd fanteisio ar yr holl feddiant ac roedd rhaid i Gymru ddiolch i'w hamddiffyn am arbed y tîm cartref rhag sgorio yn y chwarter agoriadol.

Llwyddodd Kees Meeuws i groesi'r linell ond methodd â'i llorio ond yn anffodus i'r Cymry, lledwyd y bêl i Doug Howlett groesi yn y gornel dde o'r sgrym pum metr.

Yn dilyn perfformiad trychinebus Carlos Spencer wythnos diwethaf Carter, oedd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i'r Crysau Duon, oedd yn cymeryd y ciciau, a llwyddodd i drosi o ongl anodd.

Roedd y Crysau Duon yn llawn hyder ac wrth i Charvis geisio cario'r bêl ymlaen cafodd ei daro â tharan o dacl gan Jerry Collins.

Wedi triniaeth hir bu rhaid iddo adael y maes a cafodd Jonathan Thomas ddod i'r maes am ei ail gap.

Yn ffodus iawn, mae'r adroddiadau am anafiadau Charvis yn ffafriol a cafodd adael yr ysbyty er mwyn teithio adref â gweddill y garfan.

Gyda Seland Newydd yn rheoli yn y sgrym a'r linell, llwydodd Carter i ymestyn eu mantais â chic gosb.

Roedd Spencer yn darganfod ei draed fel maswr rhyngwladol a llwyddodd i sgorio cais wedi 31 munud gan rhoi mantais 17-3 i'r tîm cartref ar yr hanner.

Roedd Carter yn rheoli canol y cae a phan gafodd ei ryddhau gan Spencer llwyddodd i ddal Mark taylor i ffwrdd er mwyn sgorio'r trydydd cais.

Roedd llinellau Cymru'n llac ac yn dilyn un symudiad welodd Seland Newydd yn cael sgrym pum metr, llwyddodd y prop Meeuws i sgorio cais arall.

Gyda'r blaenwyr ar dân brwydrodd y bachwr Keven Mealamu dros y linell yna cafodd yr olwyr gyfle gyda Tana Umaga yn torri trwy'r amddiffyn.

Daeth dwy gais gyflym i Joe Rokocoku, yr ail wedi iddo daro cic Ceri Sweeney i'r llawr.

Bydd Seland Newydd yn hapus â'u perfformiad ac yn barod i wynebu Ffrainc wythnos nesaf.


Seland Newydd: Malili Muliaina (Auckland); Doug Howlett (Auckland), Tana Umaga (Wellington), Daniel Carter (Canterbury), Joe Rokocoko (Auckland); Carlos Spencer (Auckland), Steve Devine (Auckland); Carl Hoeft (Canterbury), Keven Mealamu (Auckland), Kees Meeuws (Auckland), Chris Jack (Canterbury), Ali Williams (Auckland), Reuben Thorne (Canterbury, capt), Marty Holah (Waikato), Jerry Collins (Wellington).
Eilyddion: Caleb Ralph (Canterbury), Aaron Mauger (Canterbury), Byron Kelleher (Otago), Richie McCaw (Canterbury), Brad Thorn (Canterbury), Dave Hewett (Canterbury), Anton Oliver (Otago).

Cymru: Rhys Williams (Caerdydd); Mark Jones (Llanelli), Jamie Robinson (Caerdydd), Mark Taylor (Llanelli), Tom Shanklin (Caerdydd); Stephen Jones (Llanelli), Gareth Cooper (Caerfaddon); Iestyn Thomas (Llanelli), Robin McBryde (Llanelli), Gethin Jenkins (Pontypridd), Robert Sidoli (Pontypridd), Gareth Llewellyn (Castell-nedd), Dafydd Jones (Llanelli), Martyn Williams (Caerdydd, capt), Colin Charvis (Abertawe).
Eilyddion: Gavin Henson (Abertawe), Ceri Sweeney (Pontypridd), Dwayne Peel (Llanelli), Jonathan Thomas (Abertawe), Chris Wyatt (Llanelli), Ben Evans (Caerdydd), Mefin Davies (Pontypridd).





puff_llewod-200.jpg


Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy